Rhobell Fawr
| Rhobell Fawr (Arenig) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Copa Rhobell Fawr |
| Uchder (m) | 734 |
| Uchder (tr) | 2408 |
| Amlygrwydd (m) | 309 |
| Lleoliad | rhwng y Bermo a Betws-y-Coed a'r Bala |
| Map topograffig | Landranger 124; Explorer 23E |
| Cyfesurynnau OS | SH786256 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall |
Mynydd yn ne Gwynedd yw Rhobell Fawr. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Dolgellau, gyda dyffryn afon Mawddach yn ei wahanu oddi wrth y Rhinogydd ymhellach i'r gorllewin; cyfeiriad grid SH786256. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 425metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Mae pentrefi Llanfachreth a Rhydymain i'r de ohono.
Gellir ei ddringo ar hyd llwybrau sy'n dechrau gerllaw Rhydymain neu gerllaw Llanfachreth. Ceir coedwig gonifferaidd drwchus ar y llechweddau isaf. Ar un adeg roedd Rhobell Fawr yn llosgfynydd, a gellir gweld olion hyn ar y creigiau.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill copaon gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 734 metr (2408 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'