Pen y Gogarth
| Pen y Gogarth () |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Y Gogarth o Benmaen-bach |
| Uchder (m) | 207 |
| Uchder (tr) | 679 |
| Amlygrwydd (m) | 201 |
| Lleoliad | rhwng Llandudno a Wrecsam |
| Map topograffig | Landranger 115; Explorer 17E |
| Cyfesurynnau OS | SH767833 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn (mynydd) |
Penrhyn calchfaen i'r gorllewin o dref Llandudno, Sir Conwy, gogledd Cymru, a'i gopa'n 207 m (679 tr) uwchben lefel y môr yw Pen y Gogarth (neu'r Gogarth) cyfeiriad grid SH767833. Rhed y lôn doll a elwir Marine Drive oddi amgylch y Gogarth. Mae'r Gogarth yn ardal sy'n gyfoethog iawn ei holion cynhanesyddol, o Oes Newydd y Cerrig i Oes y Seintiau. Mae tramffordd Fictorianaidd yn dringo bron iawn i'r copa a cheir nifer o lwybrau cerdded ar hyd ei llethrau glaswelltog. Mae'r golygfeydd o'r copa yn wych ac yn ymestyn o fynyddoedd y Carneddau ac Eryri yn y de-orllewin i Fôn, Ynys Seiriol ac ar ddiwrnod braf Ynys Manaw yn y gogledd ac arfordir gogledd-ddwyrain Cymru yn y dwyrain.
Cynnwys |
Cyngreawdr Fynydd [golygu]
Ei hen enw Cymraeg oedd Cyngreadr neu Cyngreawdr Fynydd. Mae'r bardd canoloesol Gwalchmai ap Meilyr yn cyfeirio ato yn y gerdd Gorhoffedd Gwalchmai:
- Dyogladd gwenyg gwyn Gyngreawdr fynydd,
- Morfa Rhianedd Maelgwn rebydd.
- (Mae tonnau gwyn yn taro mynydd Cyngreawdr,
- Morfa Rhianedd [y] brenin Maelgwn.)
Olion Cyn-hanesyddol [golygu]
Mwyngloddio Copr [golygu]
Roedd Pen y Gogarth yn safle cloddio pwysig yn ystod Oes yr Efydd, pan oedd y diwydiant copr o bwysigrwydd arbennig gan mai copr yw'r prif fetel mewn efydd. Er fod tystiolaeth fod cloddio wedi para hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae yna dystiolaeth, bellach, y bu pobl yn mwyngloddio yma yn ystod Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid hefyd. Roedd y siafftiau wedi eu blocio gan bren a cherrig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae'r safle yn agored i'r cyhoedd heddiw ar ôl archwiliad archaeolegol o'r safle.[1]
Dechreuwyd mwyngloddio copr ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu wedi'u cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd cerrig igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl i gopr gael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.
Olion Cyn-hanesyddol Eraill [golygu]
Ceir cytiau cynhanesyddol ym mhen gorllewinol y Gogarth. Yn y pen arall mae cromlech a elwir, fel nifer o rai eraill, yn 'Llety'r Filiast' yn sefyll. Mae Pen y Dinas yn fryn-gaer o Oes yr Haearn uwchben 'Nant Dedwydd' ("Happy Valley" y twristiaid). Ar ei gopa mae carreg hynafol 'Crud Tudno', neu 'Y Maen Sigl', sy'n fod i siglo pan bwysir arno ac a gysylltwyd â'r derwyddon gan rhai o hynafiaethwyr rhamantaidd y 19eg ganrif.
Olion Hanesyddol [golygu]
I'r dwyrain o'r copa mewn cwm bach cysgodlyd saif Eglwys Tudno, eglwys wreiddiol y plwyf, a sefydlwyd yn y 6ed ganrif, efallai, gan Sant Tudno. Is-law'r goleudy (gweler isod) mae'r ogof 'Parlwr Llech' ("The Hiding Cave") ac ynddi mae bwrdd a mainc carreg naturiol; fe'i gelwir hefyd 'Ogof y Mynaich' ac fe'i cysylltir â Maenordy'r Gogarth ('Abaty'r Gogarth'), Pen y Morfa, neu â'r Mostyniaid. Mae llwybr bytholwyrdd 'Llwybr y Mynachod' yn rhedeg o'r hen faenordy i'r copa.
Dosbarthiad y mynydd [golygu]
Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 6 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 207 metr (679 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Bywyd Gwyllt a Natur [golygu]
Mae praidd o eifr Cashmiraidd ar y Gogarth ers y 19eg ganrif. Ceir nifer o blanhigion prin sy'n tyfu ar bridd galchfaen ac mae 'na nifer o adar y môr yn nythu ar y clogwyni, yn cynnwys y bilidowcar.
Atyniadau Eraill [golygu]
Mae'r Gogarth yn boblogaidd iawn gan dwristiaid yn yr haf ac mae car cêbl Tramffordd y Gogarth yn dringo o'r dref i'r copa. Ar ben clogwyn 300 troedfedd uwch y môr mae hen oleudy, hanner ffordd rownd y "Marine Drive", oedd gynt yn perthyn i Fwrdd Harbwr a Dociau Lerpwl ond sydd bellach yn westy. Mae nifer o ogofâu yn y clogwyni môr yn cynnwys 'Parlwr Llech' (uchod), 'Ogof "Hornby"', 'Ogof Hafnant', 'Ogof Colomenod' ac 'Ogof Dutchman'.
Cyfeiriadau [golygu]
Darllen Pellach [golygu]
- Harold Hughes a Herbert L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd, 1984)
- Ivor Wyn Jones: Llandudno, Queen of Welsh Resorts (Ashbourne, 2002)
- E.D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)