Ernst Haeckel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ernst Haeckel.

Biolegydd Almaenig oedd Ernst Heinrich Philipp August Haeckel (16 Chwefror 1834 – 9 Awst 1919), weithiau von Haeckel. Bu'n gyfrifol am ddarganfod, disgrifio ac enwi miloedd o rywogaethau newydd, ac am ddyfeisio nifer o dermau megis phylum, ecoleg a'r Protista. Gwnaeth Haeckel lawer i gyhoeddi syniadau Darwin yn yr Almaen, a datblygodd y theori fod datblygiad biolegol unigolyn o unrhyw rywogaeth yn ail-adrodd esblygiad y rhywogaeth honno.

Gabed ef yn Potsdam, yr adeg honno'n rhan o deyrnas Prwsia. Bu astudio meddygaeth yn ninas Berlin, gan ymgymhwyso fel meddyg, yna bu'n astudio swoleg ym Mhrifysgol Jena. Yn ddiweddarach daeth yn Athro anatomeg gymharol ym Mhrifysgol Jena, a bu yno am 47 mlynedd.