Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ogof Ffynnon Beuno.
Ceg Ogof Ffynnon Beuno
Yr ogof o'r Dwyrain

Ogofâu cynhanesyddol ydy Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno sydd wedi'u lleoli yng nghymuned Tremeirchion, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ085724. Cloddiwyd yn yr ogofâu hyn a chafwyd hyd i domeni sbwriel sydd rhwng 38,000 a 28,000 o flynyddoedd oed. Dyma rai o'r ogofâu mwyaf gogleddol yn Ewrop i gynnwys esgyrn Neanderthaliaid o'r cyfnod hwnnw. Saif Ffynnon Beuno tua 200 metr i'r ogof a lleolir Ogof Cae Gwyn bron yng nghanol pentref Tremeirchion.

Archaeoleg[golygu]

Dyma beth o gynnwys yr ogofâu pan gawsant eu harchwilio yn 1885 ynghŷd â nifer yr esgyrn a ddarganfuwyd ynddynt:

Cae Gwyn (nifer yr esgyrn)

hyena 20
dannedd ceffyl 34
rhinoseros 23
llwynog 3
ychen 2
dannedd arth 1
ibecs 1

Ffynnon Beuno (nifer yr esgyrn)

hyena 50
dannedd ceffyl 545
rhinoseros 375
llew 6
ychen 20
arth 16
dannedd ceirw 72
ibecs 20
dannedd arth 4

Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: FL069 [1] Ceir ail ogof gerllaw, sef Ogof Cae Gwyn cyfeiriad grid SJ085724 sydd â Rhif SAM unigryw: FL070.

Cadwraeth[golygu]

Mae Ffynnon Beuno a Chae Gwyn wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1963 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[2] Mae ei arwynebedd yn 0.52 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Dynodwyd y safle’n un o statws arbennig ar sail daeareg yn ogystal â bod ynddo fywyd gwyllt o bwys ac o dan fygythiad. Er enghraifft efallai i’r statws gael ei ddynodi oherwydd fod ynddo strata’n cynnwys ffosiliau hynod o greaduriaid asgwrn cefn neu ffosiliau o bryfaid neu blanhigion yn ogystal â’r stratigraffeg ei hun (h.y. haenau o greigiau o bwys cenedlaethol).

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]