Callestr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Callestr
Cnepyn callestr

Carreg gref iawn yw callestr (neu fflint). Mae'n garreg waddod silica ac yn edrych fel gwydr. Mae cerrig callestr yn gallu bod yn llwyd tywyll, glas, du neu frown tywyll. Mae llawer ohonyn nhw i'w cael fel lympiau mewn sialc neu galchfaen.

Defnyddir callestr i godi tân ac erbyn y ddeunawfed ganrif mewn arfau tân yn ogystal. Fe'i defnyddid i wneud arfau ac offer eraill fel cyllyll yn ystod Oes y Cerrig.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am callestr
yn Wiciadur.