Chalcolithig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfnodau cynhanes
H   La Tène   Protohanes
  Hallstatt
Oes yr Haearn
  Oes ddiweddar yr Efydd  
  Oes ganol yr Efydd
  Oes gynnar yr Efydd
Oes yr Efydd
    Chalcolithig    
  Neolithig Cynhanes
Mesolithig
P     Paleolithig Uchaf  
    Paleolithig Canol
    Paleolithig Isaf
  Hen Oes y Cerrig
Oes y Cerrig

Mae cyfnod y Chalcolithig (Groeg: khalkos + lithos 'carreg gopr') neu Oes y Copr (a elwir hefyd yn Eneolithig (Aeneolithig)), yn gam yn natblygiad diwylliant y ddynolryw a welodd ymddangosiad graddol yr offer metel cyntaf a ddefnyddid ochr yn ochr ag offer carreg. Mae'r term(au) a'i ddefnydd gan archaeolegwyr yn amrywio'n fawr.

Yn draddodiadol mae llenyddiaeth archaeoleg Ewropeaidd yn osgoi defnyddio'r term 'chalcolithig' (gan ddefnyddio'r term 'Oes y Copr' yn ei le), tra bod archaeolegwyr yn y Dwyrain Canol ar y llaw arall yn ei ddefnyddio'n rheolaidd. Y rheswm am hynny yw bod y chalcolithig wedi dechrau'n gynharach o lawer yn yr ardal honno, tra bod y newid o'r cyfnod chalcolithig byr a gafwyd yn Ewrop i Oes yr Efydd yn llawer mwy sydyn (am fod y dechnoleg newydd wedi dod i Ewrop o'r Dwyrain Canol).

Mae'r cyfnod yn un o drawsnewid rhwng y Neolithig (Oes y Cerrig) ac Oes yr Efydd, sy'n gorwedd y tu allan i'r hen system tair oes ar gyfer Cynhanes. Ymddengys fod pobl yn araf i ddefnyddio copr, efallai'n bennaf am ei bod yn fetel gymharol brin a meddal, a'i bod wedi cael ei chymysgu gyda thun a metelau eraill yn gynnar iawn; ffaith sy'n ei gwneud hi'n anodd i wahaniaethu rhwng y gwahanol diwylliannau Chalcolithig a'u dosbarthu'n drefnus.

Y canlyniad yw bod y term yn tueddu i gael ei ddefnyddio mewn rhai lleoedd yn unig, yn bennaf yn ne-ddwyrain Ewrop a gorllewin a chanolbarth Asia (o tua'r 4ydd milenniwm CC ymlaen). Fe'i defnyddir weithiau i ddisgrifio rhai o wareiddiaid yr Amerig yn y cyfnod yn union cyn dyfodiad yr Ewropeiaid yn ogystal.

O 4300 i 3200 CC yn y cyfnod Chalcolithig, mae Gwareiddiad Dyffryn Indus yn dangos cyfatebiaethau ceramig gyda diwylliannau cynnar de Turkmenistan a gogledd Iran, sy'n awgrymu teithio a masnachu ar raddfa sylweddol.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Parpola, Asko: Study of the Indus Script, tud. 2, 3.