Ares
Oddi ar Wicipedia
| Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a thynnir o ganlyniad. (Ionawr 2010) |
Cerflun o Ares o Fila Hadrian.
Duw rhyfel ym mytholeg Groeg oedd Ares (Hen Roeg: Ἄρης). Roedd yn un o'r Deuddeg Olympiad ac yn fab i Zeus a Hera. Mewn gwirionedd roedd yn dduw ffyrnigrwydd a chreulondeb rhyfel, tra'r oedd ei hanner chwaer, Athena, yn dduwies strategaeth mewn rhyfel. Mae'n cyfateb i'r duw Mawrth yn y traddodiad Rhufeinig.
Ei gymdeithion mewn rhyfel oedd Deimos, "dychryn", a Phobos "ofn", yn ôl un chwedl ei feibion oeddynt, yn deillio o'i garwriaeth ag Aphrodite. Roedd Eris, duwies anghydfod, yn chwaer iddo. Yn ôl un chwedl, roedd ganddo fab, Cycnus (Κύκνος), a geisiodd adeiladu teml a phenglogau ac esgyrn teithwyr yr oedd wedi eu lladd.