Hera

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerflun o Hera yn y Louvre.

Brenhines y duwiau a gwraig Zeus ym mytholeg Roeg oedd Hera (Groeg: Ἥρα) neu Here (Ἥρη) yn y dafodiaith Ionig. Roedd yn dduuwies merched a phriodas, ac yn cyfateb i Juno ym mytholeg Rhufain.

Roedd yn ferch i'r Titaniaid Cronus a Rhea. Dangosir hi'n aml yn gwisgo'r polos, coron uchel. Addolid hi'n arbennig fel "Hera Argos", yn ei chysegr rhwng Argos a Mycenae, lle cynhelid gwyliau'r Heraia er anrhydedd iddi. Roedd cwlt Hera ar ynys Samos hefyd, a themlau iddi yn Olympia, Corinth, Tiryns, Perachora ac ynys santaidd Delos.

Ei phlant gyda Zeus oedd Ares, Hebe, Eris ac Eileithyia; roedd Hephaestus hefyd yn fab iddi. Roedd yn casau'r arwr Heracles, oedd yn fab i Zeus ac Alcmene ac yn nodedig am ei gryfder eithriadol a'i ddewrder. Pan oedd Heracles yn Thebai, priododd Megara, merch y brenin Creon. Fodd bynnag gwnaeth Hera ef yn wallgof, a lladdodd Heracles Megara a'u plant. Pan sylweddolodd beth yr oedd wedi ei wneud aeth at Oracl Delphi am gyngor, a than ddylanwad Hera gyrrodd yr oracl ef i wasanaethu'r brenin Eurystheus am ddeuddeg mlynedd a gwneud unrhyw dasg y byddai'r brenin yn ei orchymyn iddo.