Deuddeg Olympiad
Oddi ar Wicipedia
Y Deuddeg Olympiad neu'r Dodekatheon (Groeg: Δωδεκάθεον < δωδεκα, dodeka, "deuddeg" + θεον, theon, "o'r duwiau"), yw'r deuddeg prif dduw ym mytholeg Groeg, oedd yn trigo ar Fynydd Olympus.
| Enw Groegaidd | Enw Rhufeinig | Delwedd | Yn gyfrifol am ... | Cenhedlaeth |
|---|---|---|---|---|
| Zeus | Iau (Iuppiter) | Brenin y duwiau, duw'r awyr a tharanau. | Cyntaf | |
| Hera | Juno | Brenhines y duwiau, duwies merched a phriodas. | Cyntaf | |
| Poseidon | Neifion (Neptunus) | Duw'r môr, daeargrynfeydd a cheffylau. | Cyntaf | |
| Demeter | Ceres | Duwies ffrwythlondeb, amaeth, natur a'r tymhorau. | Cyntaf | |
| Hestia | Vesta | Duwies yr aelwyd a'r cartref. | Cyntaf | |
| Aphrodite | Gwener (Venus) | Duwies cariad, harddwch, chwant a ffrwythlondeb. | Ail | |
| Apollo | Apollo | Duw'r haul, iachau, cerddoriaeth, barddoniaeth a phroffwydoliaeth. | Ail | |
| Ares | Mawrth (Mars) | Duw rhyfel. | Ail | |
| Artemis | Diana | Duwies hela, gwyryfon a'r lleuad. | Ail | |
| Athena | Minerva | Duwies doethineb, crefftau a strategaeth mewn rhyfel. | Ail | |
| Hephaestus | Fwlcan (Vulcanus) | Gôf y duwiau; duw tân a'r efail. | Ail | |
| Hermes | Mercher (Mercurius) | Negesydd y duwiau, duw masnach, lladron a chyflymdra. | Ail |