Minerva

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pen efydd Minerva, o faddondai Rhufeinig Caerfaddon.

Duwies Rufeinig a gysylltir â gwybodaeth, y deall a'r celfyddydau yn gyffredinol yw Minerva. Mae hi'n dduwies deallusrwydd, synfyfyrdod a dyfeisgarwch, Brenhines y Celfyddydau i gyd ond yn enwedig y grefft o wau gan ferched. Yn ogystal, roedd hi'n nawdd-dduwies lliwyr, cryddion (cobleriaid), seiri pren, cerddorion, cerflunwyr, actorion, beirdd, athrawon a disgyblion ysgol (minerval oedd enw'r Rhufeiniaid am y ffïoedd ysgol).

Roedd ei phrif gysegrfannau i'w cael yn ninas Rhufain ei hun, ar fryn y Capitol, lle eisteddai cerflun ysblennydd ohoni rhwng y duw Iau a'i gymar Juno. Roedd temlau hynafol eraill iddi hefyd.

Gyda threigliad amser, cysylltwyd hi â'r dduwies Roegaidd Pallas Athene, yn enwedig yn ei hagwedd fel duwies buddugoliaeth ac ysbail; dan yr agwedd honno y codwyd Pompey deml iddi i ddathlu ei fuddugoliaethau yn y Dwyrain.

Ymledodd ei chwlt i bob cwr o'r Ymerodraeth Rufeinig, yn cynnwys y Brydain Rufeinig. Yng Ngâl, uniaethir y dduwies Geltaidd Belisama â Minerva.

Ffynhonnell[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).