Hestia
Oddi ar Wicipedia
Duwies ym mytholeg Groeg ac un o'r Deuddeg Olympiad gwreiddiol oedd Hestia (Hen Roeg: Ἑστία). Hi oedd duwies yr aelwyd a'r teulu, yn cyfateb i Vesta yn y traddodiad Rhufeinig.
Roedd yn ferch i Cronus a Rhea, yn chwaer i Demeter, Hera, Zeus, Poseidon a Hades. Yn ôl un fersiwn, rhoddodd ei lle fel un o'r Deuddeg Olympiad i Dionysus, er mwyn medru gwarchod tân santaidd Mynydd Olympus.

