Iliad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r Iliad (Groeg Ιλιάδα) yn un o'r ddwy gerdd fawr a briodolir i'r bardd Groeg, Homeros.

Yn yr Iliad, ceir rhan o hanes Rhyfel Caerdroea. Mae byddin Roegaidd dan arweiniad Agamemnon yn gwarchae ar ddinas Caerdroea, ar affordir gogledd-orllewin Anatolia. Y mwyaf nerthol o arwyr y Groegiaid yw Achilles, sy'n fab i'r dduwies Thetis. Pan oedd yn faban, roedd Thetis wedi ei ymdrochi yn afon Styx fel na ellid ei niweidio gan unrhyw arf; heblaw ar ei sawdl, lle roedd hi'n gafael ynddo. Ymysg arwyr eraill y Groegiaid mae Aias ac Odysseus. Prif arwr Caerdroea yw Hector, mab y brenin Priam.

Llinellau cyntaf yr Iliad yw:

μῆνιν ἄειδε θεὰ Πηληϊάδεω Ἀχιλῆος
οὐλομένην, ἣ μυρί' Ἀχαιοῖς ἄλγε' ἔθηκεν,
Cenwch, dduwiesau, am ddicter mab Peleus, Achilles
y dicter melltigedig ddaeth a phoen i filoedd o'r Acheaid.
Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.