Sylvia Plath

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sylvia Plath
Sylvia plath.jpg
Plath ym 1957
Ganwyd 27 Hydref, 1932
Boston, Massachusetts, Unol Daleithiau
Bu farw 11 Chwefror, 1963
Eglwys Heptonstall, Swydd Gorllewin Efrog, Lloegr
Galwedigaeth Bardd

Bardd, nofelydd ac ysgrifennydd straeon byrion o'r Unol Daleithiau oedd Sylvia Plath (27 Hydref, 1932 - 11 Chwefror, 1963). Fe'i ganwyd yn Boston, Massachusetts, ac astudiodd yng Ngholeg Smith a Choleg Newnham, Caergrawnt cyn derbyn cydnabyddiaeth fel bardd a llenor proffesiynol.

Priododd y bardd Ted Hughes, yn 1956 a bu'r ddau'n byw yn yr Unol Daleithiau i ddechrau ac yna yn Lloegr. Cawsant ddau o blant gyda'i gilydd, Frieda a Nicholas. Dioddefai Plath o iselder am gyfnodau helaeth o'i bywyd fel oedolyn[1] ac yn 1963 cymrodd ei bywyd ei hun.[2] Mae ei bywyd a'i marwolaeth, ynghyd â'i hysgrifennu a'i dylanwad yn parhau i fod yn ddadleuol

Cydnabyddir Plath am ddatblygu genre o farddoniaeth gyffesol ac mae hi fwyaf enwog am ei dwy gyfrol gyhoeddedig, The Colossus and Other Poems ac Ariel. Yn 1982, enillodd Wobr Pulitzer ar ôl ei marwolaeth, am The Collected Poems. Roedd hi hefyd wedi ysgrifenu The Bell Jar, nofel rhannol-hunangofiannol a gyhoeddwyd ychydig cyn ei marwolaeth.[3]

Llyfryddiaeth[golygu]

Barddoniaeth[golygu]

Rhyddiaith[golygu]

Plant[golygu]

  • The Bed Book (1976)
  • The It-Doesn't-Matter-Suit (1996)
  • Collected Children's Stories (UK, 2001)
  • Mrs. Cherry's Kitchen (2001)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Sylvia Plath and the depression continuum" gan Brian Cooper, MD o ncbi.nlm.nih.gov
  2. Becker. (2003)
  3. The Bell Jar. Harper Perennial Classics Edition. ISBN 0-06-093018-7 p xii. Cyflwyniad gan Frances McCullough