Daniel Craig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Daniel Craig, Dinas Efrog Newydd, Tachwedd 2008

Actor Seisnig yw Daniel Wroughton Craig (ganwyd 2 Mawrth 1968). Mae ei weithiau cynnar yn cynnwys The Power of One, A Kid in King Arthur's Court a'r cyfresi teledu Sharpe's Eagle a The Young Indiana Jones Chronicles: Daredevils of the Desert. Daeth i amlygrwydd oherwydd ei berfformiad yn Layer Cake a Lara Croft: Tomb Raider hefyd, lle'r serennodd gydag Angelina Jolie.

Craig oedd y chweched actor i bortreadu'r asiant cudd ffuglennol James Bond yng nghyfres Eon Productions o ffilmiau. Cafodd ei berfformiad cyntaf fel y cymeriad yn 2006 ganmoliaeth fawr a chafodd ei enwebu am Wobr BAFTA. Gwnaeth y ffilm US$593 miliwn ledled y byd a dyma oedd y ffilm James Bond i wneud fwyaf o arian. Yn ddiweddar, gorffennodd ffilmio'r 22ain ffilm Bond sef Quantum of Solace a ryddhawyd yn y DU ar 31 Hydref 2008 ac yn yr Unol Daleithiau ar 14 Tachwedd 2008.


Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill