Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel

Oddi ar Wicipedia
Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1240 Edit this on Wikidata

Bardd o ganol y 13g oedd Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel (tua 1240 - 1300), un o'r olaf o Feirdd y Tywysogion.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ni wyddys ddim o gwbl am Hywel Foel ar wahân i'r ychydig dystiolaeth sydd yn ei gerddi. Mae ei enw yn anghyffredin iawn. Yr unig enghreifftiau eraill o'r enw personol 'Pwyll' yw Pwyll, Pendefig Dyfed ym Mhedair Cainc y Mabinogi a Phwyll ap Peredur Beiswyn a restrir yn yr achau traddodiadol fel 'Arglwydd Ceredigion Uchaf'. Mae defnyddio 'Gwyddel(es)' gydag enw personol yn digwydd sawl gwaith, e.e. Ffynnod Wyddeles, mam y bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Dim ond dwy gerdd gan y bardd sydd wedi goroesi; fe'u ceir yn Llawysgrif Hendregadredd. Gwrthrych y ddwy awdl yw Owain Goch ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd. Maent yn perthyn i'r cyfnod pan garcharwyd Owain Goch am yr ail dro (1255 - 1277), ac yn dangos cydymdeimlad y bardd iddo. Gofyn am ryddid i Owain mae Hywel yn y ddwy awdl, a gwneir hynny ar gywair lleddf sy'n eu gwneud ymhith y tristaf o gerddi beirdd y cyfnod.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Ceir golygiad o waith Hywel gan Brynley F. Roberts yn,

  • Rhian M. Andrews et al. (gol.), Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 1996).

Gweler hefyd erthygl Brynley F. Roberts 'Dwy awdl Hywel Foel ap Griffri' yn,

  • R. Geraint Gruffydd (gol.), Bardos (Caerdydd, 1982).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 1996).



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch