Llywarch y Nam

Oddi ar Wicipedia
Llywarch y Nam
Ganwyd1150 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1160 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Roedd Llywarch y Nam (fl. 1150 - 1160) yn fardd llys a gysylltir â theyrnas Powys. Dim ond un o'i gerddi sydd wedi goroesi.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ceir peth dryswch ynglŷn â unoliaeth y bardd. Fel yn achos Llywarch Llaety, mae'r unig gerdd o'i waith sydd gennym heddiw yn fawl i Lywelyn ap Madog, mab hynaf ac etifedd Madog ap Maredudd o Bowys, a laddwyd yn fuan ar ôl marwolaeth ei dad yn 1160. Mae'r cyd-ddigwyddiad hyn, a'r ffaith fod ei henwau mor tebyg i'w gilydd, yn codi'r bosiblrwydd fod Llywarch y Nam a Llywarch Llaety yn llysenwau ar yr un bardd, ond does dim modd profi hynny.[1]

Cerdd[golygu | golygu cod]

Cerdd i ddiolch i Lywelyn ap Madog am rodd o gŵn hela mewn cyfres o englynion yw'r unig destun a briodolir i Lywarch y Nam yn y llawysgrifau. Ceir y testun cynharaf yn Llawysgrif NLW 4973B. Mae'r gerdd yn anghyflawn gyda dim ond tri englyn.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Nerys Ann Jones (gol.), 'Gwaith Llywarch y Nam', yn Kathleen A. Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion.'

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Nerys Ann Jones (gol.), 'Gwaith Llywarch y Nam'.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch