Arwyrain

Oddi ar Wicipedia

Genre o ganu mawl yw arwyrain a geir yng ngwaith Beirdd y Tywysogion. Awdlau yw'r awyreiniau i gyd.

Ystyr y gair Cymraeg Canol arwyrain yw 'dyrchafu' neu 'estyn'. Mae elfen olaf y ffurf rediadol arwyddwyreaf yn tarddu o'r gwreiddyn Celteg *reg- sy'n cytras â'r gair Lladin rex ('brenin').[1] Moliant arbennig i frenin, sy'n ei ddyrchafu wrth ei glodfori yw 'arwyrain' felly. Pwysleisir ach urddasol y brenin. Elfen amlwg arall yw ymffrost y bardd yn ei allu barddol ac at y berthynas rhyngddo a'i noddwr brenhinol. Mae Morfydd E. Owen yn nodi fod cerddi tebyg i'w cael yn Iwerddon a gysylltir â seremoni urddo'r brenin, sef 'estyn' y frenhiniaeth iddo. Awgryma'r dystiolaeth mai canu defodol ar achlysur urddo brenin oedd y canu Cymraeg hefyd.[2]

Canu hynafol oedd y canu arwyrain hyd yn oed yn y 12g, ac ymddengys i'r ffurf golli ei harwyddocâd erbyn y 13g. Cedwir rhyw naw cerdd wrth y teitl 'arwyrain' yn Llawysgrif Hendregadredd, i gyd namyn un o'r 12g, a cheir yn ogystal tair cerdd o'r 13g sy'n dechrau gyda'r gair 'arddwyreaf'.[3] Y cerddi gyda'r teitl 'arwyrain' arnynt yw:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Morfydd E. Owen, 'Noddwyr a Beirdd', Beirdd a Thywysogion (Caerdydd, 1996), tud. 92.
  2. 'Noddwyr a Beirdd', tud. 93.
  3. 'Noddwyr a Beirdd', tud. 106 (nodyn).