Maelgwn ap Rhys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Erthygl am y tywysog o Ddeheubarth yw hon. Am arweinydd y Gwrthryfel Cymreig yn y De (1294-95), gweler Maelgwn ap Rhys (gwrthryfelwr).

Tywysog rhan o deyrnas Deheubarth oedd Maelgwn ap Rhys (c. 1170 - 1230).

Roedd Maelgwn yn fab i Rhys ap Gruffudd ('Yr Arglwydd Rhys') a'i wraig Gwenllian ferch Madog, merch Madog ap Maredudd, tywysog Powys. Ymddengys yn y cofnodion am y tro cyntaf yn cynorthwyo i warchae ar Ddinbych y Pysgod yn 1187. Yn 1188, pan deithiodd Baldwin, Archesgob Caergaint a Gerallt Gymro trwy Gymru i gasglu milwyr ar gyfer Y Drydedd Groesgad, cofnodir i Faelgwn gymeryd y groes, er nad ymddengys iddi fynd ar y groesgad.

Disgrifir Maelgwn fel gŵr byr a chymeriad cythryblus, a roddodd lawer o drafferth i'w dad yn ei flynyddoedd olaf. By cynnen hir a chwerw rhwng Maelgwn a'i frawd Gruffudd. Cadwyd ef yn garcharor rhwng 1189 a 1192. Yn 1194 gorchfygodd ef a'i frawd Hywel eu tad mewn brwydr a'i garcharu yng Nghastell Nanhyfer, ond rhyddhawyd ef yn ddiweddarach gan Hywel. Roedd Maelgwn yn alltud pan fu farw ei dad yn 1197. Roedd Gruffudd wedi ei ddynodi fel etifedd ei dad, ond gyda milwyr a fenthycwyd iddo gan Gwenwynwyn ab Owain o Bowys ymosododd Maelgwn ar Aberystwyth, a chipio'r dref a'r castell a chymeryd Gruffudd yn garcharor. Trosglwyddodd Maelgwn ei frawd i Gwenwynwyn, a meddiannodd Geredigion. Pan orchfygwyd Gwenwynwyn yng Nghastell Paun gan y Normaniaid yn 1198, rhyddhawyd Gruffudd, a chipiodd Geredigion yn ôl oddi wrth Maelgwn heblaw Castell Aberteifi a Chastell Ystrad Meurig. Daeth Maelgwn i gytundeb a brenin Lloegr, a gwerthodd gastell Aberteifi iddo, gan feddiannu'r gweddill o Geredigion ei hun.

Bu farw Gruffudd yn 1201, ac achubodd Maelgwn y cyfle i gipio Castell Cilgerran, ond yn 1204 collodd y castell i William Marshall. Yn 1204 ymosododd gwŷr Maelgwn ar ei frawd Hywel, a fu farw o'i glwyfau yn ddiweddarach. Yn 1205, yn ôl Brut y Tywysogion, gorchmynodd i Wyddel ladd Cedifor ap Gruffudd a'i bedwar mab, gweithred a enillodd gondemniad y croniclydd.

Yn 1207, ffraeodd Gwenwynwyn o Bowys a'r brenin, a chipiodd y brenin ei diroedd. Manteisiodd Llywelyn Fawr o Wynedd ar hyn i gipio gogledd Ceredigion oddi ar Maelgwn, gan roi'r tiroedd rhwng Afon Ystwyth ac Afon Aeron i feibion Gruffudd. Cynorthwyodd Maelgwn y brenin i orfodi Llywelyn i geisio telerau yn 1211, ond ni ddychwelwyd y tiroedd hyn iddo. Gwnaeth gynghrair a Llywelyn yn erbyn y brenin. Fodd bynnag, pan rannodd Llywelyn deyrnas Deheubarth yn 1216, dim ond de Ceredigion a gafodd Maelgwn.

Bu farw Maelgwn yn 1230 yn Llannerch Aeron, a chladdwyd ef yn Abaty Ystrad Fflur. Etifeddwyd ei diroedd gan ei fab, Maelgwn ap Maelgwn, a elwid yn Maelgwn Fychan.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)