Gruffudd ap Rhys II

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Gruffudd ap Rhys II (bu farw 25 Gorffennaf 1201) yn dywysog Deheubarth yn ne-orllewin Cymru. Roedd yn fab i Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys) ac yn ŵyr i Gruffudd ap Rhys.

Gruffydd oedd mab hynaf Rhys ap Gruffudd o'i wraig Gwenllian, merch Madog ap Maredudd tywysog Powys. Bwriad Rhys oedd i Gruffudd fod yn brif etifedd iddo, ac yn 1189 priodwyd ef a Matilda, merch William de Braose. Caswant ddau fab, Rhys ac Owain. Yn ystod blynyddoedd olaf ei dad datblygodd gelyniaeth rhwng Gruffudd a'i frawd Maelgwn ap Rhys, pob un o'r ddau yn cael eu cefnofi gan frodyr eraill. Yn 1189 perswadiwyd Rhys i garcharu Maelgwn, a rhoddwyd ef i Gruffudd ei gadw yng Nghastell Dinefwr. Trosglwyddodd Gruffudd ef i'w dad-yng-nghyfraith, William de Braose. Trefnodd Rhys i Maelgwn gael ei ollwng yn rhydd yn 1192, ond erbyn hyn yr oedd ef a Gruffudd yn casau ei gilydd. Yn 1194 gorchfygodd Maelgwn a brawd arall, Hywel, eu tad a'i garcharu, er i Hywel ei ryddhau yn ddiweddarach.

Bu farw Rhys ap Gruffudd yn 1197. Cafodd Gruffudd gyfweliad a'r Archesgob Hubert y justiciar, a'i dderbyn fel etifedd ei dad, ond defnyddiodd Maelgwn filwyr a gyflenwyd gan Gwenwynwyn ab Owain o Bowys i ymosod ar Aberystwyth. Cipiodd y dref a'r castell, a chymerodd Gruffudd ei hun yn garcharor. Yn ddiweddarach trosglwyddodd ef i Gwenwynwyn, a throsglwyddodd yntau ef i'r Saeson, a'i carcharodd yng Nghastell Corfe. Yn 1198 yr oedd Gwenwynwyn yn bygwth meddiannau Seisnig yng Nghastell Paun ag Elfael, a gollyngwyd Gruffudd yn rhydd i geisio trefnu cytundeb. Methodd ei ymdrechion, ac yn y frwydr a ddilynodd gorchfygwyd Gwenwynwyn. Cadwodd Gruffudd ei ryddid, ac erbyn diwedd y flwyddyn yr oedd wedi cipio'r cyfan o Geredigion oddi wrth Maelgwn heblaw am gestyll Aberteifi ac Ystrad Meurig. Yn 1199 cipiodd Gastell Cilgerran. Daeth Maelgwn i gytundeb a'r brenin John, gan werthu castell Aberteifi iddo yn gyfnewid am feddiant o'r gweddill o Geredigion.

Ym mis Gorffennaf 1201 lladdwyd brawd arall, Maredudd ap Rhys, a chymerodd Gruffudd ei diroedd. Ar 25 Gorffennaf bu farw Gruffudd ei hun o afiechyd, a chladdwyd ef yn Abaty Ystrad Fflur.

Llyfryddiaeth[golygu]

John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)

Rhagflaenydd:
Rhys ap Gruffudd
Tywysog Deheubarth
11971201
Olynydd:
Maelgwn ap Rhys