Castell Aberdyfi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Castell a leolir ger Glandyfi, Ceredigion, (tua phum milltir i'r de o Fachynlleth) yw Castell Aberdyfi (neu 'Castell Abereinion'). Enwir y castell ar ôl aber Afon Dyfi: does dim cysylltiad a'r pentref glan-y-môr o'r un enw yng Ngwynedd. Dim ond y mwnt sydd i'w weld yno heddiw, sydd yn cael ei gyfeirio ati fel y Domen Las ar fapiau 'Ordnance Surfey'.

Codwyd y castell cyntaf yn 1156 gan Rhys ap Gruffudd, mewn ymateb i fygythiad i'w diroedd o'r gogledd gan Owain Gwynedd, a oedd wedi casglu byddin i deithio i Geredigion. Cododd Rhys ffôs i allu dal ei dir yn ôl Brut y Tywysogion.

Ni wireddwyd y bygythiad, ond codwyd castell ar y safle, beth bynnag. Adeiladwyd mwnt ar ben crib isel a oedd yn rhedeg dros y tir corsiog a amgylchwyd ar bob ochr gan Afon Dyfi ac Afon Einion. Mae'r domen oddeutu 20 troedfedd o uchder gyda hydredd o tua 30 troedfedd ar ei chopa; amgylchwyd hi gan ffos ddofn.

Ymosododd yr Iarll Normanaidd Roger de Clare ar y castell a'i gipio tua'r flwyddyn 1158. Ond ail-gipiodd yr Arglwydd Rhys y castell ar ôl hynny. Cynhaliodd Llywelyn ab Iorwerth gynulliad yng Nghastell Aberdyfi yn 1216 pan roddodd diroedd de Cymru i dywysogion eraill mewn cyfnewid am eu gwrogaeth a'u ffyddlondeb.


Cestyll Tywysogion Deheubarth RhysArms.PNG
Aberdyfi | Aberteifi | Carreg Cennen | Dinefwr | Y Dryslwyn | Nanhyfer | Newydd Emlyn | Rhaeadr Gwy | Trefilan | Ystradmeurig