Rhys Gryg

Oddi ar Wicipedia
Rhys Gryg
Beddrod Rhys Gryg yng Ngadeirlan Eglwys Tyddewi
Ganwyd1160 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1234 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn, pendefig Edit this on Wikidata
Swyddtywysog Edit this on Wikidata
TadRhys ap Gruffudd Edit this on Wikidata
MamGwenllian ferch Madog ap Maredudd ap Bleddyn Edit this on Wikidata
PriodMaud de Clare Edit this on Wikidata
PlantRhys Mechyll, Maredudd ap Rhys Gryg, Ellyw ferch Rhys Gryg, Ales ferch Rhys Grûg ap Rhys, Nn ferch Rhys Gryg ap Rhys ap Gruffudd, Hywel ap Rhys Gryg, Llywelyn ap Rhys Gryg ap Rhys ap Gruffudd, Gwenllian Gethin ferch Rhys Gryg, Jonet ferch Rhys Gryg ap Rhys Edit this on Wikidata
Castell Dryslwyn a Bryn Gronger

Rhys Gryg neu Syr Rhys Gryg (bu farw 1234) oedd yr olaf o dywysogion annibynnol teyrnas Deheubarth. Roedd yn bedwerydd fab i'r Arglwydd Rhys. Ei fam oedd Gwenllïan ferch Madog ap Maredudd ac felly roedd yn gefnder i Lywelyn Fawr.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ochrodd gyda Llywelyn yn erbyn y brenin John o Loegr yn 1216. Ond trodd Llywelyn arno yn 1220 a meddiannu rhai o'i diroedd. Dros dro oedd yr anghydfod ac o hynny ymlaen brwydrodd Rhys gyda Llywelyn yn erbyn y Saeson yn y de.

Cafodd ei anafu mewn brwydr gerllaw Caerfyrddin yn 1234. Er gwaethaf triniaeth gan Feddygon Myddfai, bu farw o'i glwyf, ymhen ychydig, yn Llandeilo (efallai yn abaty Llandeilo Fawr).

Canodd y bardd Llywarch ap Llywelyn ('Prydydd y Moch') awdl fawreddog i Rys Gryg (tua 1220 efallai). Canodd y Prydydd Bychan iddo yn ogystal.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Elin M. Jones (gol.), Gwaith Llywarch ap Llywelyn 'Prydydd y Moch' (Caerdydd, 1991). Testun 26.


Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Erthygl Rhys Gryg yn y Bywgraffiadur Cymreig

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.