Brwydr Maesyfed

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Maesyfed
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad1195 Edit this on Wikidata
Rhan oYmosodiad y Normaniaid ar Gymru Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaRhys ap Gruffudd Edit this on Wikidata
LleoliadMaesyfed Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Brwydr ger Maesyfed, Powys oedd Brwydr Maesyfed gyda'r Cymry o dan arweiniad yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth yn fuddugol a lle lladdwyd deugain o farchogion Roger Mortimer o Wigmore a Hugh de Say yn 1195.

Hon oedd brwydr olaf Rhys, Tywysog Deheubarth, yn ei ymgyrch olaf yn erbyn y Normaniaid, pan gipiodd nifer o gestyll gan gynnwys Castell Caerfyrddin a llosgi'r dref Seisnig yn ulw. Gyda chymorth llawer rhagor o filwyr Cymraeg lleol trodd i'r dwyrain gan ymosod ar Castell Glan Edw (Conwy ger Maesyfed) gyda'i beiriannau rhyfel nerthol nes i'r Saeson ildio; llosgodd y castell. Aeth yn ei flaen i gipio Castell Maesyfed a Chastell Paun. O fewn dyddiau, bron, roedd ei fyddin yn fuddugol ym Mrwydr Maesyfed ar lawr y dyffryn pan laddwyd deugain o farchogion Roger de Mortimer a Hugh de Say.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]