Maesyfed (pentref)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned ym Mhowys yw Maesyfed (Saesneg: New Radnor) Cyfeirnod OS: SO2160. Saif yn agos i'r ffîn a Lloegr, ger cyffordd yr A44 a'r B4372, i'r dwyrain o dref Llandrindod.

Ar un adeg, y pentref oedd canolfan arglwyddiaeth Maesyfed, a chynlluniwyd y dref fel bwrdeisdref. Daeth Gerallt Gymro yma gyda'r Archesgob Baldwin yn 1188. Wedi ffurfio Sir Faesyfed, Maesyfed oedd y brif dref hyd y 17eg ganrif, pan ddaeth Llanandras yn brif dref yn ei lle.

Mae'r enw i'w ganfod mewn ysgrifen mor gynnar a 991 ar ffurf 'maes hefed'. Ystyr 'maes' ydy 'cae' neu dir agored ac enw person yw 'Hyfaidd'. Arferid galw'r dyffryn lle saif Maesyfed yn Fro Hyfeid.

Ceir castell yma, a adeiladwyd gan William Fitz Osbern Iarll Henffordd tan iddo farw yn 1071 ac yna Philip de Breos tua 1086. Newidiodd ddwylo sawl gwaith cyn i Owain Glyndŵr ei ddinistrio. Yn 1196 bu byddin Rhys ap Gruffudd (neu'r Arglwydd Rhys) yn fuddugol ym Mrwydr Maesyfed ar lawr y dyffryn pan laddwyd deugain o farchogion Roger Mortimer o Wigmore a Hugh de Say.

Mae'r gymuned yn cynnwys rhan sylweddol o Fforest Clud, gan gynnwys y pwynt uchaf, Rhos Fawr (660 medr). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 410.