Brwydr Nanheudwy

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Nanheudwy
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata

Lladdwyd Cadwallon ap Gruffudd ap Cynan ym Mrwydr Nanheudwy, a ymladdwyd yn 1132 ger Llangollen gan Cadwgan ap Goronwy ac Einion ab Owain ei gefndryd. Cwmwd canoloesol oedd Nanheudwy a oedd yn ymestyn o Langollen i Faelor yn y gogledd; ac i lawr i Arwystli yn y de.

Yn 1123, ymosododd Cadwallon ac Owain ar gantref Meirionnydd, a oedd yn perthyn i Deyrnas Powys ar y pryd. Yn 1124 cipiasant gantref Dyffryn Clwyd o ddwylo Powys a'i adfer i Wynedd. Mewn ymgyrch ddiweddarach, lladdwyd Cadwallon gan fyddin o Bowys mewn brwydr yng nghwmwd Nanheudwy, ger Llangollen, yn 1132.[1] Atalwyd cynnydd tiriogaethol Gwynedd am gyfnod ar ôl hynny.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977), tt. xxvii-xxviii.