Nanheudwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map braslun o brif israniadau Powys

Cwmwd canoloesol yn Nheyrnas Powys, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, oedd Nanheudwy.

Gorweddai'r cwmwd ar lan ddeheuol afon Dyfrdwy ym mhen gogleddol mynyddoedd Y Berwyn. Cwmwd mynyddig oedd hwn, heb fod o lawer o bwys economaidd ond ar safle strategol yn gwarchod Glyndyfrdwy, Dyffryn Edeirnion, a chalon gogledd Cymru rhag ymosodiadau o du Lloegr.

Ffiniai â chwmwd Cynllaith (Cynllaith Owain) i'r de, a daeth y ddwy uned hyn yn rhan o Swydd y Waun yn yr Oesoedd Canol Diweddar. I'r gorllewin, ffiniai Nanheudwy ag Edeirnion, ac â chwmwd Iâl a Maelor Gymraeg i'r gogledd. I'r dwyrain roedd ardal Croesoswallt yn Swydd Amwythig, ardal a fu gynt yn rhan o deyrnas Powys.

Prif ganolfan eglwysig y cwmwd oedd Llangollen. Yr ardal fwyaf poblog yn y cwmwd efalali oedd Dyffryn Ceiriog.

Pan dorrodd Powys yn ddau ddarn yn 1160, daeth Nanheudwy yn rhan o dywysogaeth Powys Fadog. Yn nes ymlaen byddai'n rhan o arglwyddiaeth Swydd y Waun ac o 1536 ymlaen daeth y rhan fwyaf o'r tir yn rhan o Sir Ddinbych. Heddiw mae'n cael ei rannu rhwng y Sir Ddinbych newydd a sir Powys.

Gweler hefyd[golygu]