Brwydr Cwnsyllt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brwydr a chyflafan rhwng Owain Gwynedd a byddin enfawr Harri II, brenin Lloegr ym 1157 oedd Brwydr Cwnsyllt (neu Frwydr Cwnsyllt, neu Frwydr Bryn y Glo neu Frwydr Coed Ewloe neu Frwydr Coed Penarlâg),[1] gyda'r Cymry'n fuddugol.

Cwmwd yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar lan aber afon Dyfrdwy oedd Cwnsyllt (Saesneg: Coleshill). Gyda chymydau Prestatyn a Rhuddlan, roedd yn rhan o gantref Tegeingl. Digwyddodd y frwydr yma, ar safle ger Bryn y Glo, yn 1157 a dihangodd brenin Lloegr o'r gyflafan trwy groen ei ddannedd.

Brwydr rhwng y 30,00 o filwyr Harri II, a'r Tywysog Owain Gwynedd gyda nemor 3,000 o ddynion oedd hon a hynny yn 1157, pan llwyddodd y fyddin Gymraeg i drechu'r Normaniaid.

Trechwyd llynges Brenin Lloegr tua'r un pryd ym Môn gan y Cymry lleol a lladd Henry FitzRoy.

Cododd milwyr Owain wersyll ger Abaty Dinas Basing, tua 12 milltir o Saltney yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a danfonodd rhan o'i fyddin o dan arweiniad dau o'i feibion i Goed Ewloe i guddio a disgwyl yr awr. Am ryw reswm, teithiodd y fyddin Saesnig drwy'r coed ac ymosododd y Cymry arnynt gan ladd nifer ohonynt. Cael a chael oedd hi i Harri fedru ffoi gyda'i fywyd.[2]

Cyfeiriadau[golygu]