Porth Llechog
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan a bae ar arfordir gogledd Ynys Môn ger Amlwch yw Porth Llechog (Saesneg: Bull Bay). Gorwedd ychydig dros filltir i'r gogledd-orllewin o dref fechan Amlwch.
Mae bae Porth Llechog yn ffurffio harbwr naturiol ar arfordir creigiog y rhan yma o'r ynys. Diau i'r porth gael ei ddefnyddio am ganrifoedd, ond cymharol diweddar yw'r pentref bychan sydd wedi tyfu yno. Mae'r dafarn Bull Bay yn boblogaidd. Ceir traeth o gerrig mân sy'n denu ymwelwyr a physgotwyr.
Rhed y ffordd A5025 trwy'r pentref, gan ei gysylltu ag Amlwch i'r de-ddwyrain a Chemaes i'r gorllewin.
Ceir cofnodion am gymuned ganolesol ger y bae o'r enw 'Llechog', a fu'n rhan o gwmwd Twrcelyn, cantref Cemais.[1] Er nad oes sicrwydd, mae'n bosibl fod y bardd a brudiwr canoloesol Adda Fras yn frodor o Lechog. Porth y gymuned fechan honno oedd Porth Llechog yn wreiddiol, felly.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982), tud. 51.
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachreth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfairpwllgwyngyll · Llanfair-yn-neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llanynghenedl · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Niwbwrch · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Trearddur · Trefor · Tregele