Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Tu mewn i'r eglwys

Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yn ninas fechan Tyddewi yn Sir Benfro, yw canolfan Esgobaeth Tyddewi a phrif sedd Esgob Tyddewi

Saif yr eglwys gadeiriol ar y safle lle yn ôl traddodiad y sefydlwyd cymuned o fynachod gan Dewi ei hun yn y 6ed ganrif. Rhwng 645 a 1097, ymosodwyd ar y fynachlog lawer gwaith, yn arbennig gan y Llychlynwyr, ond enillodd gymaint o fri fel canolfan dysg gel mai oddi yma y gofynnodd Alfred, brenin Wessex, am gymorth i adfywio dysg yn Wessex. Lladdwyd nifer o'r esgobion gan yr ymosodwyr yn y cyfnod yma, yn cynnwys yr Esgob Morgeneu yn 999, a'r Esgob Abraham yn 1080.

Yn 1081, ymwelodd Gwilym Goncwerwr a'r fangre. Yn 1090, ysgrifennodd yr ysgolhaig Rhygyfarch ap Sulien fuchedd Dewi yn Lladin, gan gynyddu enwogrwydd Tyddewi. Daeth yr ardal i ddwylo'r Normaniaid, ac yn 1115 apwyntiodd Harri I, brenin Lloegr yr Esgob Bernard yn Esgob Tyddewi, a dechreuodd ef adeiladu eglwys gadeiriol newydd. Yn 1123, ar gais yr Esgob Bernard, cyhoeddodd y Pab Calixtus II fod Tyddewi yn gyrchfan i bererinion, gyda dwy bererindod i Dyddewi cystal ag un i Rufain, a thair cystal ag un i Jeriwsalem.

Dechreuwyd adeiladu'r eglwys gaderiol bresennol yn 1181. Ychwanegwyd llawer ati ers hynny, er enghraifft y talcen gorllewinol gan John Nash yn niwedd y 18fed ganrif. Ymhlith y bobl enwog a gladdwyd yn yr eglwys mae Rhys ap Gruffudd ("Yr Arglwydd Rhys").

Gweler hefyd[golygu]

WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato