Rhygyfarch ap Sulien

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Rhygyfarch ap Sulien (1056? - 1099) (weithiau Ricemarchus; weithiau Rhigyfarch mewn ffynonellau Saesneg) yn ysgolhaig ac yn Esgob Tyddewi.

Bywgraffiad[golygu]

Mab oedd i Sulien, yntau yn ysgolhaig nodedig, yn Esgob Tyddewi, ond yn bennaf yn gysylltiedig â chlas Llanbadarn Fawr. Roedd yn frawd i Ieuan ap Sulien.[1]

Ysgrifennodd Rhygyfarch y llawysgrif Ladin Sallwyr Rhygyfarch, sy'n cynnwys cyfieithiad o'r Sallwyr Hebraeg a deunydd arall, yn cynnwys penillion gan Rhygyfarch ei hun. Lluniwyd y llawysgrif yn Llanbadarn Fawr tua'r flwyddyn 1079; gwnaethpwyd y llythrennnau lliw gan ei frawd Ieuan. Cedwir y llawysgrif yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn.[1]

Cyfansoddodd gerdd arall yn galaru oherwydd anrheithiau'r Normaniaid yng Ngheredigion. I Rhygyfarch y priodolir y Vita Davidis (Buchedd Dewi), a gyfansoddwyd tua'r flwyddyn 1094 i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth Archesgob Caergaint. Dilynodd ei dad fel Esgob Tyddewi yn 1088.[1]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • D. Simon Evans, Buched Dewi (Caerdydd, 1959). Rhagymadrodd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 D. Simon Evans, Buched Dewi (Caerdydd, 1959). Rhagymadrodd.