Drôn

Oddi ar Wicipedia
Drôn milwrol, arfog o Unol Daleithiau America: yr MQ-9 Reaper
Effaith drôn milwrol ym Mhacistan: lladd a chlwyfo sifiliaid.

Mae drôn yn enw ar awyren ddi-beilot, sy'n cael ei rheoli o’r ddaear; Saesneg: unmanned aerial vehicle (UAV), remotely piloted aircraft (RPA). Ceir drôns neu 'dronau' bychan y gellir eu prynu dros y cownter a cheir drôns militaraidd. Mae meysydd awyr Llanbedr, Gwynedd ac Aber-porth â thrwyddedau i hedfan dronau militaraidd. Mae'r International Civil Aviation Organization (ICAO) yn galw'r ddau gategori yma yn:

  1. awyrennau awtonomaidd, sy'n gyrru eu hunain
  2. awyrennau a beilotir o bell

Gan fod y drôn yn gwneud gwaith dyn, gellir dweud fod elfennau robotaidd yn perthyn iddo. Gellir eu dosbarthu i ddau ddosbarth: gwaith milwrol ar y naill law a sifil ar y llaw arall. Pan fo'r drôn yn cael ei yrru gan nifer o lafnau (neu rotors) gelwir ef yn amrodor (Saesneg: multirotor).

Drôns milwrol[golygu | golygu cod]

Y Predator, sef UCAV (Unmanned combat aerial vehicle) UDA

Defnyddiwyd y drôn milwrol yn helaeth am y tro cyntaf yn 2001, gan fyddin Unol Daleithiau America (UDA) ym Mhacistan ac yn Wsbecistan. Gwelwyd y Predator, sef UCAV (Unmanned combat aerial vehicle) UDA gyda'i daflegrau Hellfire yn ceisio llofruddio arweinwyr mudiadau 'terfysgol'.[1] Yn 2009 cyhoeddodd Canolfan Brookings fod ymosodiadau drôns yr Unol Daleithiau ym Mhacistan - ar gyfartaledd - yn lladd deg o sifiliad am bob un 'terfysgwr'.[2][3]

Mae'r Tadiran Mastiff, a gynhyrchwyd gyntaf yn 1973 gan fyddin Israel wedi'u defnyddio'n helaeth gan gynnwys yn 1982 yn ystod Rhyfel Libanus; ac wrth i dechnoleg ddatblygu maen nhw wedi defnyddio'r MQ-1 Predator yn helaeth.[4]

Drôns sifil[golygu | golygu cod]

Yn 2016 roedd yn bosib prynnu drôn sifil (yn hytrach na rhai milwrol) gyda lled adain 25 cm dros y cownter am oddeutu £80. Roedd eraill, gyda chamera gyda chydraniad uchel yn costio £2,000. Cawsant eu defnyddio ar gyfer nifer fawr o ddigwyddiadau fel ffilmio Chwaraeon Olympaidd yn Sochi yn 2014, yn enwedig yn y campau sgïo. Defnydd arall iddynt yw archwilio adeiladau anhygyrch e.e. fe'u defnyddiwyd gan yr Eglwys yng Nghymru, mewn prosiect i archwilio tyrrau a thoeau eglwysi Llandaf a Llanelwy.[5]

Caiff drôns sifil eu defnyddio'n bennaf er mwyn cadw costau'n isel, neu o dan amgylchiadau peryglus e.e. i weld y tu mewn i losgfynydd neu adeilad dan warchae arfog. Mae heddlu'r India a'r Unol Daleithiau yn eu defnyddio'n rheolaidd.

Yn Hydref 2016 dechreuwyd danfon gwaed ar gyfer ei drallwyso gan feddygon yn Rwanda ar gyfandir Affrica. Mae'r drôns hyn yn adain-galed (fixed wing) a gallant deithio hyd at 75 km i ffwrdd ac yn ôl (cyfanswm y daith: 150 km (93 milltir). Maent yn ddibynnol ar GPS i ganfod y lleoliad. Cant eu lansio gan sbring ar gledr tua 4 metr, ac maen nhw'n glanio ar glustog tua 4 wrth 4 metr. Gellir eu defnyddio sawl tro ar ôl ei gilydd, wedi newid y batri sydd ynddynt. Er mwyn osgoi awyrennau, maen nhw'n hedfan o dan 152m (500tr).

Rhai gwledydd[golygu | golygu cod]

Gwledydd Prydain[golygu | golygu cod]

Dywed rheolau'r CAA fod yn rhaid i awyrennau UAV llai na 20 kg fod o fewn golwg y 'peilot' sy'n eu llywio; ni chaniateir i'r drôn hedfan o fewn 150 metr i fannau poblog, neu 50 m i berson neu gerbyd, ac ni ddylid eu defnyddio'n fasnachol heb drwydded arbennig.[6]

Rwanda[golygu | golygu cod]

Cychwynwyd eu defnyddio i gludo gwaed ar gyfer defnydd meddygol yn Hydref 2016.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sauer, Frank/Schoernig Niklas, 2012: Killer drones: The ‘silver bullet’ of democratic warfare?, in: Security Dialogue 43 (4): 363–380, http://sdi.sagepub.com/content/43/4/363.abstract. Retrieved 1 Medi 2012.
  2. [1] Archifwyd 2010-10-21 yn y Peiriant Wayback. , Dawn, 21 Gorffennaf 2009
  3. Daniel L. Byman (14 Gorffennaf 2009). "Do Targeted Killings Work?". The Brookings Institution. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-21. Cyrchwyd 8 Ionawr 2015.
  4. Finn, Peter, "Drones, now indispensable in war, began life in garage", Washington Post, reprinted in Japan Times, 27 December 2011, p. 6.
  5. Gwefan yr Eglwys yng Nghymru; Archifwyd 2016-03-11 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 17 Mawrth 2015
  6. Reed, Jim (29 Awst 2012). "The skies open up for large civilian drones". BBC News Technology. Cyrchwyd 8 April 2013.