Gogledd Caeredin a Leith (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia
Gogledd Caeredin a Leith
Etholaeth Bwrdeistref
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Gogledd Caeredin a Leith yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd1997
Aelod SeneddolDeidre Brock SNP
Nifer yr aelodau1
Crewyd oEdinburgh Leith
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban
Gofal: ceir hefyd etholaeth arall o'r un enw ar gyfer Senedd yr Alban.

Mae Gogledd Caeredin a Leith yn etholaeth fwrdeistrefol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1997 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae'r etholaeth yn un o bump o fewn Dinas Caeredin.

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Deidre Brock, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]

Etholiad Aelod Plaid
1997 Malcolm Chisholm Llafur
2001 Mark Lazarowicz Llafur-Cydweithredol
2005 Mark Lazarowicz Llafur-Cydweithredol
2010 Mark Lazarowicz Llafur-Cydweithredol
2015 Deidre Brock SNP
2017 Deidre Brock SNP
2019 Deidre Brock SNP

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|