Harri Potter

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Clawr Harri Potter a Maen yr Athronydd

Arwr yn y gyfres o lyfrau sy'n sôn am brofiad yr arwr mewn ysgol dewiniaeth ddychmygol, yw Harri Potter gan J. K. Rowling. Cyhoeddwyd y nofel gyntaf, Harri Potter a Maen yr Athronydd, ym 1997 gan y golygydd Bloomsbury. Sgrifenwyd y llyfrau yn Saesneg, ond cyfieithiwyd nhw i nifer o ieithoedd eraill a gwnaethpwyd ffilmiau am anturiaethau Harri Potter hefyd.

[golygu] Llyfrau

[golygu] Cyfieithiad i'r Gymraeg

Yr unig un a gyfieithwyd i'r Gymraeg (gan Emily Huws) hyd yn hyn yw Harri Potter a Maen yr Athronydd.

Yn fersiwn Cymraeg y nofel, mae’r rhan fwyaf o'r cymeriadau yn cadw eu henwau Saesneg, ond mae gyda rhai cymeriadau, pethau neu leoedd enw Cymraeg gwahanol i'r fersiwn Saesneg.

Cymraeg Gwreiddiol Saesneg
Dreigo Mallwyd Draco Malfoy
Edeyrn ag Efnisien Crabbe and Goyle
Gringrwn Gringotts
Mygl (lluosog: Myglars) Muggle
Nefydd Llywelyn Neville Longbottom
Y Proffwyd Dyddiol The Daily Prophet
Y Piwsiwr Peeves
Waldo Waedlyd the Bloody Baron
Wyddost-Ti-Pwy You-Know-Who
Gron Heb Ben Bron Nearly Headless Nick
Sefran Sneip Severus Snape

Enwau'r pedwar Tŷ yn yr ysgol hudoliaeth a dewiniaeth Hogwarts:

Cymraeg Gwreiddiol Saesneg
Slafennog Slytherin
Lleureurol Gryffyndor
Wfftipwff Hufflepuff
Crafangfan Ravenclaw

Cysylltiadau rhwng byd Harri Potter a Chymru:

  • Holyhead Harpies yw un o'r tîmau Quidditch enwocaf ym Mhrydain (a hoff tîm Ginny Weasley).
  • Yn y pennod olaf, mae Harri, Ron a Hermione yn cuddio mewn coedwig yng Nghymru.
  • Mae rhywogaeth dreigiau yn byw yng Ngymru: y ddraig gyffredin werdd Gymreig.
  • Yn 'Prisoner of Azkaban' mae menyw ar y Knight Bus yn gadael Y Fenni.
  • Cafodd rhan y ffilm "Harry Potter and the Deathly Hallows" ei ffilmio ar traeth yn Freshwater West (Sir Benfro). [[1]]

[golygu] Ffilmiau

Offer personol