Wcráin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Україна
Ukrayina

Wcráin
Baner Wcráin Arfbais Wcráin
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim
Anthem: Shche ne vmerla Ukraina
Lleoliad Wcráin
Prifddinas Kiev1
Dinas fwyaf Kiev
Iaith / Ieithoedd swyddogol Wcreineg
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Viktor Yanukovych
Mykola Azarov
Annibyniaeth

 • Datganwyd
 • Refferendwm
oddi wrth yr Undeb Sofietaidd
 24 Awst 1991
1 Rhagfyr 1991
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
603,700 km² (45fed)
dibwys
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
48,457,102 (27fed)
46,481,000
78/km² (92fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$365.5 biliwn (28fed)
$7,800 (87fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.766 (78fed) – canolig
Arian cyfred Hyrvnia Wcrainaidd (UAH)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
EEST (UTC+3)
Côd ISO y wlad .ua
Côd ffôn +380
1 Hefyd sillafu Kyiv

Gwlad a gweriniaeth yn nwyrain Ewrop yw Wcráin (hefyd yr Wcráin, ac Ukrain). Mae ar lan y Môr Du a gwledydd cyfagos yw'r Ffederasiwn Rwsia, Belarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Romania a Moldofa. Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd.

Cynnwys

[golygu] Daearyddiaeth

Prif erthygl: Daearyddiaeth Wcráin.

Gweler hefyd: Rhestr dinasoedd Wcráin.

[golygu] Hanes

Prif erthygl: Hanes Wcráin.

O'r 9fed ganrif ymlaen, roedd y diriogaeth a elwir yn Wcráin erbyn hyn yn ganolbwynt i wareiddiad Slafaidd Ddwyreiniol. Yn ystod y canrifoedd dilynol, fe'i rhanwyd rhwng nifer o rymoedd rhanbarthol. Wedi cyfnod byr o annibyniaeth wedi Chwyldro Rwsia ym 1917, daeth y wlad yn un o'r Gweriniaethau Sofietaidd cyntaf ym 1922. Estynwyd diriogaeth Gweriniaeth Sofietaidd yr Wcráin tua'r gorllewin wedi'r Ail Ryfel Byd, ac eto ym 1954. Daeth Wcráin yn annibynnol unwaith eto wedi dymchwel yr Undeb Sofietaidd ym 1991.

[golygu] Gwleidyddiaeth

Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Wcráin.

[golygu] Diwylliant

Prif erthygl: Diwylliant Wcráin.

[golygu] Demograffeg

Yn ôl Cyfrifiad Wcráin 2001, mae'r Wcreiniaid ethnig yn ffurfio 77.8% o'r boblogaeth. Grwpiau mawr eraill ydy'r Rwsiaid (17.3%), Belarwsiaid (0.6%), Moldofiaid (0.5%), Tatariaid Crimea (0.5%), Bwlgariaid (0.4%), Hwngariaid (0.3%), Rwmaniaid (0.3%), Pwyliaid (0.3%), Iddewon (0.2%), Armeniaid (0.2%), Groegwyr (0.2%) a'r Tatariad eraill (0.2%). Poblogaeth wrban sy gan Iwcrain gyda 67.2% yn byw mewn trefi.

Ers degawd a mwy mae argyfwng demograffaidd yn y wlad gyda mwy yn marw na'r genedigaethau. Genedigaethau 9.55 /1,000 poblogaeth, Marwolaethau 15.93 /1,000 poblogaeth. Mae lefel iechyd isel yn y wlad yn cyfrannu at hyn ac yn 2007 roedd y boblogaeth yn gostwng ar y pedwerydd gyflymdra yn y byd.

Telir 12,250 hryvnia (tua £120) am y plentyn cyntaf, 25,000 hryvnia (tua £250) am yr ail a 50,000 hryvnia (tua £500) am y trydydd a phedwerydd. Dim ond mewn chwarter o'r ardaloedd mae cynnydd poblogaeth - i gyd yng ngorllewin y wlad. Rhwng 1991 a 2004, symudodd tua 3.3 miliwn i mewn i Iwcráin (o'r Undeb Sofietaidd) ac aeth 2.5 miliwn allan - y rhan fwyaf i'r Undeb Sofietaidd. Yn 2006, roedd tua 1.2 million Canadiaid o dras Iwcráiniaid yn arbennig yng ngorllewin Canada .

Ukrainian Flag Template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wcráin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.