Yr wyddor Gyrilig
Oddi ar Wicipedia
System ysgrifennu a ddefnyddir heddiw ar gyfer rhai ieithoedd Slafonaidd (Belarwsieg, Bwlgareg, Macedoneg, Rwsieg, Serbeg ac Wcraneg) yw'r wyddor Gyrilig. Defnyddir hefyd i ysgrifennu nifer o ieithoedd an-Slafonaidd yn Rwsia a Chanolbarth Asia. Ysgrifennid rhai ieithoedd eraill, megis Aserbaijaneg, yn yr wyddor hon ar adegau yn y gorffennol.
[golygu] Llythrenau cyffredin
Mae sawl ffurf gwahanol i'r wyddor, ond isod mae tabl o'r llythrenau mwyaf cyffredin. Rhoddir y synau maent yn eu cynrychioli mewn symbolau IPA.
| Teipysgrif | Llawysgrifen | Sain |
|---|---|---|
| А а | А а | /a/ |
| Б б | Б б | /b/ |
| В в | В в | /v/ |
| Г г | Г г | /g/ |
| Д д | Д д | /d/ |
| Е е | Е е | /je/ |
| Ж ж | Ж ж | /ʒ/ |
| З з | З з | /z/ |
| И и | И и | /i/ |
| Й й | Й й | /j/ |
| К к | К к | /k/ |
| Л л | Л л | /l/ |
| М м | М м | /m/ |
| Н н | Н н | /n/ |
| О о | О о | /o/ |
| П п | П п | /p/ |
| Р р | Р р | /r/ |
| С с | С с | /s/ |
| Т т | Т т | /t/ |
| У у | У у | /u/ |
| Ф ф | Ф ф | /f/ |
| Х х | Х х | /x/ |
| Ц ц | Ц ц | /ʦ/ |
| Ч ч | Ч ч | /ʧ/ |
| Ш ш | Ш ш | /ʃ/ |
| Щ щ | Щ щ | /ʃʧ/ |
| Ь ь | Ь ь | /ʲ/ |
| Ю ю | Ю ю | /ju/ |
| Я я | Я я | /ja/ |
Ni chynrichiola'r llythyren ь unrhyw sain penodol. Yn hytrach, mae'n newid sain y llythyren blaenorol, gan ei 'feddalu'. Mewn rhai ieithoedd, mae'r llythyren ъ neu gollnod ’ yn 'caledu' sain y llytheren blaenorol.