Serbeg
Oddi ar Wicipedia
Iaith a siaredir yn Serbia a rhai gwledydd cyfagos yw Serbeg. Mae'n iaith swyddogol yn Serbia, a cheir cryn nifer o siaradwyr mewn gwledydd fel Bosnia a Montenegro. Credir fod tua 11 miliwn yn siarad yr iath, 8 miliwn o'r rhain yn ei siarad fel mamiaith.
Mae Serbeg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafonig a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Croateg, Bosnieg a Montenegreg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel iaith, a Serbeg fel un o'i thafodieithoedd, ac mae llawer o ieithyddwr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Serbeg a Chroateg fel ieithoedd yn hytrach na thafodieithoedd.