Bosnieg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gramadeg Bosnieg (Sarajevo, 1890).

Iaith a siaredir yn Bosnia a Hercegovina a rhai gwledydd cyfagos yw Bosnieg (Bosanski jezik, hefyd: Bošnjački jezik). Mae'n iaith swyddogol yn Bosnia a Hercegovina, a cheir siaradwyr mewn rhai gwledydd eraill, gyda tua 5,500,000 o siaradwyr i gyd.

Mae Bosnieg yn rhan o'r grŵp o ieithoedd De Slafonaidd a elwir wrth yr enw Serbo-Croateg, sydd hefyd yn cynnwys Croateg a Serbeg. Arferid meddwl am Serbo-Croateg fel iaith, a Bosnieg fel un o'i thafodieithoedd, ac mae llawer o ieithyddwr yn y gorllewin yn dal i ystyried fod hyn yn wir. Fodd bynnag, gyda diflaniad Iwgoslafia, daethpwyd i feddwl am Bosnieg, Serbeg a Chroateg fel ieithoedd yn hytrach na thafodieithoedd.

Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill