Sgwrs:Wcráin

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dim angen y fannod?[golygu cod]

O ddarllen y geirdarddiad, 'dyw'r wlad ei hun ddim yn argymell y defnydd o'r fanod. Symud i 'Wcráin'? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:37, 29 Hydref 2021 (UTC)[ateb]

Cytuno. Sylwaf bod Llywodraeth Cymru, y Senedd, a'r BBC yn fwyfwy yn defnyddio'r enw heb y fannod. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:38, 23 Chwefror 2022 (UTC)[ateb]
I ateb y pwynt uchod (nad yw'r wlad ei hun yn argymell y defnydd o'r fannod) dw i'n dychmygu bod hynny'n ymwneud â'r Saesneg, lle mae'r fannod yn anarferol mewn enwau gwledydd ac felly mae hi'n tueddu i awgrymu mai rhanbarth yn lle gwlad ydy hi. Dw i ddim o'r farn bod hyn mor berthnasol i'r Gymraeg, gan ystyried faint o enwau gwyledydd eraill sy'n cynnwys y fannod yn Gymraeg. Yn y pen draw, y ffynonellau sy'n bwysig, a dylen ni adlewyrchu beth maen nhw'n ei ddefnyddio yn gyffredinol. Dw i ddim wedi edrych yn fanwl dros amrywiaeth o ffynonellau, ond dw i newydd fynd i Golwg360 a gweld erthygl ddiweddar sy'n defnyddio'r fannod, ac dw i wedi edrych ar BBC Cymru Fyw, lle mae'n anghyson, ond baswn i'n dweud bod tuedd i hepgor y fannod ychydig yn amlach na'i chynnwys. Anodd dweud beth sy'n well, felly. --Dani di Neudo (sgwrs) 17:49, 28 Chwefror 2022 (UTC)[ateb]