Môr Azov

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Môr Du a Môr Azov

Môr sy'n cysylltu â'r Môr Du yw Môr Azov (Rwseg: Азо́вское мо́ре - Azovskoye more; Wrcraineg: Азо́вське мо́ре - Azovs'ke more). Saif i'r gogledd o'r Môr Du, yn cysylltu ag ef trwy Gulfor Kerch. Mae'r Wcrain i'r gogledd iddo, Rwsia i'r dwyrain, a Gorynys y Crimea i'r gorllewin.

Y prif afonydd sy'n llifo iddo yw afon Don ac afon Kuban. Y prof borthladdoedd yw Rostov-na-Donu, Taganrog, Zhdanov, Kerch a Berdyansk.