Tystion Jehovah
Mae'r Tystion Jehovah yn fudiad crefyddol Cristnogol[1] adferiadol [2] a milflynyddol.[3]. Mae cymdeithasegwyr crefyddol wedi nodi'r grŵp fel sect adfentyddol.[4] Tarddiodd y grŵp o Fudiad Beiblaidd y Myfyrwyr ar ddiwedd y 19eg ganrif gan Charles Taze Russell. Aeth trwy gyfnod o newid sylweddol rhwng 1917 a'r 1940au, wrth i'w strwythur awdurdod gael ei ganoli a'u dulliau o bregethu gael eu strwythuro ymhellach. Erbyn heddiw, dywed y grefydd fod ganddi aelodaeth fyd-eang o tua 7,7 miliwn o bobl.[5]
Maent yn fwyaf adnabyddus am eu pregethu o ddrws-i-ddrws, ac am eu bod yn gwrthod gwasanaeth milwrol a thrawslifiadau gwaed. Mae safbwynt y grefydd ar wrthwynebiad cydwybodol wedi achosi iddynt wrthdaro â llywodraethau sy'n ymfyddino trigolion y wlad. O ganlyniad, mae gweithredoedd y Tystion Jehovah wedi'u gwahardd mewn rhai gwledydd.[6]. Mae'r Tystion Jehovah wedi cael dylanwad mawr ar gyfraith cyfansoddiadol yr Unol Daleithiau oherwydd eu hawliau sifil a'u gwrthwynebiad cydwybodol i wasanaeth milwrol.[7]
Ers 1876, mae dilynwyr y ffydd wedi bod yn credu eu bod yn byw yn nyddiau olaf y byd presennol.[8] Yn ystod y blynyddoedd a arweiniodd i fyny at 1914, 1925 a 1975, dywedodd cyhoeddiadau'r grefydd eu bod yn credu y byddai Armageddon yn ystod y blynyddoedd hyn. Arweiniodd hyn at nifer yn ymuno â'r Tystion Jehovah, dim ond i adael yn ddiweddarach.[9]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Jehovah’s Witness at a glance". BBC - Crefydd a Moesoldeb. BBC. Adalwyd 29 Rhagfyr 2008.
- ↑ Stark et al (1997). "Why Jehovah's Witnesses Grow So Rapidly: A Theoretical Application". Journal of Contemporary Religion 12 (2): 133-157.
- ↑ Oxford English Dictionary. "Jehovah's Witness: a member of a fundamentalist millenary sect" (Pwyslais wedi'i ychwanegu)
- ↑ Elliott, Joel. Encyclopedia of Religion and Society. Hartford Institute for Religion Research, Harftord Seminary.
- ↑ "Membership and Publishing Statistics". Office of Public Information of Jehovah's Witnesses
- ↑ "Tajikistan: Jehovah's Witnesses Banned". F18News. Adalwyd 18-10-2007
- ↑ Penton, M.J. (1997). Apocalypse Delayed. University of Toronto Press. p. 7. ISBN 0-8020-7973-3, 9780802079732. http://books.google.com.au/books?id=38SYXalMLeQC.
- ↑ Penton, M. J. (1997). Apocalypse Delayed (2nd ed.). University of Toronto Press. td. 1.
- ↑ Botting, Heather; Gary Botting (1984). The Orwellian World of Jehovah's Witnesses. University of Toronto Press. tf. 60–75. ISBN 0-8020-6545-7.
Cysylltiadau allanol [golygu]
- (Cymraeg) Gwefan swyddogol Tystion Jehofah: ceir yma drosiad Cymraeg o'r Beibl gan y Tystion ynghyd â thaflenni a fideos Cymraeg.