Arnhem
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nwyrain yr Iseldiroedd a phrifddinas talaith Gelderland yw Arnhem.
Saif ar yr afon Nederrijn ("Rhein isaf"). Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 142,634; yr ail ddinas yn Glederland o ran poblogaeth, ar yn ôl Nijmegen (160,681).
Hanes [golygu]
Crybwyllir Arnhem am y tro cyntaf mewn cofnod o'r flwyddyn 893 fel Arneym neu Arentheym, yn cyfeirio at yr eryrod oedd yn gyffredin yn yr ardal yr adeg honno. Daeth yn ddinas yn 1233, a daeth yn aelod o'r Cynghrair Hanseatig yn 1443.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymladdwyd Brwydr Arnhem yma, pan ollyngwyd milwyr Prydeinig ac o Wlad Pwyl i geisio cipio'r bont ym mis Medi 1944. Ni lwyddasant i feddiannu'r bont, a bu raid iddynt ildio i'r Almaenwyr. Y digwyddiadau yma oedd cefndir y ffilm A Bridge Too Far (1977).
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Duivelshuis (neuadd y dref)
- Gelredome
- Groote Kerk (eglwys)
- KEMA Toren
- Nederlands Openluchtmuseum (amgueddfa)
Enwogion [golygu]
- Hendrik Lorentz (1853-1928), ffisegydd
- Benjamin Prins (1860-1934), arlunydd
- Bernard Wagenaar (1894-1971), cyfansoddwr