Dirwasgiad

Oddi ar Wicipedia
Un o feincnodau a oes dirwasgiad ai peidio: faint o nwyddau sydd yn y siopau a beth yw pris y farchnad.

Cyfnod ble mae'r economi'n arafu'n sylweddol am gryn amser yw dirwasgiad. Mae'r dirwasgiad presennol yn enghraifft ohono.

Ymhlith ei nodweddion neu feincnodau y mae: incwm yn lleihau, diweithdra'n codi, cyflwr dwiydiant a chyflwr manwerthu'r wlad yn gostwng. Pan fo dirwasgiad yn parhau dros gyfnod o flwyddyn neu fwy, defnyddir y term dirwasgiad dwys (depression): mae'r Dirwasgiad Mawr yn enghraifft o hyn. Mewn cyfnod o ddirwasgiad, yn aml, mae prisiau tai ac eiddo'n gostwng, sef datchwyddiant (deflation) gyda'r gwrthwyneb, chwyddiant (inflation), yn digwydd i nwyddau siop a mân-nwyddau eraill. Pan fo'r ddau'n digwydd yr un pryd (megis yn achos yr dirwasgiad presennol), dywedir y ceir cyfnod o stagflation.

Yn gyffredinol, gellir defnyddio'r fformiwla ganlynol i ddiffinio dirwasgiad; mae'n gyflwr o ddirwasgiad pan fo'r cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC) yn negyddol am chwe mis neu fwy.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.