4 Mehefin
Oddi ar Wicipedia
| << Mehefin >> | ||||||
| Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su |
| 1 | 2 | |||||
| 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 |
| 10 | 11 | 12 | 13 | 14 | 15 | 16 |
| 17 | 18 | 19 | 20 | 21 | 22 | 23 |
| 24 | 25 | 26 | 27 | 28 | 29 | 30 |
| 2013 | ||||||
| Rhestr holl ddyddiau'r flwyddyn | ||||||
4 Mehefin yw'r pymthegfed dydd a deugain wedi'r cant (155ain) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (156ain mewn blynyddoedd naid). Erys 210 diwrnod arall hyd diwedd y flwyddyn.
Cynnwys |
Digwyddiadau [golygu]
- 1913 - Rhedodd Emily Davison, un o ferched y bleidlais, o flaen ceffyl y brenin a'i sathru yn ystod ras y Derby yn Epsom. Bu farw ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach.
- 1989 - Daeth gwrthdystiadau Sgwâr Tiananmen, Beijing i ben pan ymosododd byddin Tseina ar y protestwyr.
Genedigaethau [golygu]
- 1738 - Y brenin Siôr III o'r Deyrnas Unedig († 1820)
- 1966 - Cecilia Bartoli, cantores
- 1979 - Celyn Jones, actor
- 1980 - Tuğba Özerk, cantores
Marwolaethau [golygu]
- 1798 - Giacomo Casanova, 73, ysgrifennwr ac anturiaethwr
- 1875 - Eduard Mörike, 70, bardd
- 1941 - Yr ymerawdwr Gwilym II o'r Almaen ("Y Kaiser"), 82
Gwyliau a chadwraethau [golygu]
- sant Ninnog