Angelina Jolie

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Angelina Jolie Voight
Jolie.png
Jolie yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos, Y Swistir, Ionawr 2005
Geni 4 Mehefin, 1975
Los Angeles, Califfornia
Enwau eraill Angelina Jolie
Enwog am Mr. & Mrs. Smith, Kung Fu Panda, Changeling
Galwedigaeth Cyflwynwr teledu a radio

Actores ffilm Americanaidd yw Angelina Jolie (ganwyd Angelina Jolie Voight, 4 Mehefin 1975) a Llysgennad Ewyllys Dda Asiantaeth Ffoaduriaid yr UN. Mae wedi derbyn tair Gwobr Golden Globe, dwy wobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn, a Gwobr Academi. Mae hi wedi hyrwyddo achosion dyngarol drwy’r byd, ac mae hi’n cael ei chydnabod am ei gwaith gyda ffoaduriaid fel ‘Goodwill Ambassador’ i’r United Nations High Commissioner for Refugees (UNHCR). Mae hi wedi cael ei galw yn un o fenywod harddaf y byd ac fe glywn yn aml am ei bywyd personol.

Er iddi ddod ar y sgrin yn gychwynol ochr yn ochr a’i thad, Jon Voight yn y ffilm 1982 Lookin’ to Get Pit, fe ddechreuodd yrfa Jolie o ddifrif ddegawd yn ddiweddarach yn y cynhyrchiad Cyborg 2 (1993). Ei rôl blaenllaw gyntaf mewn ffilm fawr oedd yn Hackers (1995). Fe serennodd yn y ffilmiau bywgraffyddol George Wallace (1997) a Gia (1998), ac fe ennillodd Academy Award for Best Supporting Actress am ei pherfformiad yn y ddrama Girl, Interrupted (1999). Fe gafodd Jolie fwy o enwogrwydd am ei phortread o’r arwres Lara Croft yn y ffilm Lara Croft: Tomb Raider (2001), ac er hynny mae hi wedi llwyddo i ddod yn un o’r actorion enwocaf a sy’n cael eu talu fwyaf yn Hollywood. Mae hi wedi cael ei llwyddiannau mwyaf yn y ffilm Mr. & Mrs. Smith (2005) a’r ffilm Kung Fu Panda (2008.)

Wedi ysgaru â’r actorion Jonny Lee Miller a Billy Bob Thornton, mae Jolie yn byw a’r actor Brad Pitt ar hyn o bryd, mewn perthynas sydd wedi denu sylw’r cyfryngau ar draws y byd. Mae Jolie a Pitt wedi mabwysiadu tri plentyn, Maddox, Pax a Zahara, a hefyd mae ganddynt dry plentyn biolegol, Shiloh, Knox a Vivienne.



[golygu] Ffilmiau

Flag of the United States.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill