Brad Pitt
| William Bradley Pitt | |
|---|---|
| Ganwyd | Rhagfyr 18, 1963 Shawnee, Oklahoma, UDA |
| Enwau eraill | Brad Pitt |
| Yn enwog am | Ocean's Eleven, Fight Club, The Curious Case of Benjamin Button |
| Galwedigaeth | Actor, Cynhyrchydd |
Actor a chynhyrchydd ffilmiau Americanaidd yw William Bradley "Brad" Pitt (ganwyd 18 Rhagfyr 1963). Daeth yn enwog yn sgîl nifer o ffilmiau llwyddiannus yn ystod canol y 1990au. Caiff ei ystyried fel un o ddynion mwyaf golygus y byd a thelir sylw mawr gan y cyfryngau i'w fywyd personol. Mae Pitt wedi cael ei enwebu am un o Wobrau Golden Globe ac un o Wobrau'r Academi.
Dechreuodd Pitt ei yrfa ar raglenni teledu gan gynnwys rôl rheolaidd ar yr opera sebon CBS Dallas ym 1987. Cafodd rannau cefnogol hefyd mewn ffilmiau ar gyfer arddegwyr, comedïau a dramâu chwaraeon teuluol. Daeth yn adnabyddus fel y cowboi sy'n cael cyfathrach rhywiol gyda chymeriad Geena Davis yn y ffilm Thelma & Louise (1991). Cafodd Pitt chwarae'r brif ran am y tro cyntaf yn y ffilm Interview with the Vampire (1994). Derbyniodd ganmoliaeth clodwiw am ei ran yn y ffilm droseddol Seven a'r ffilm wyddonias Twelve Monkeys. Derbyniodd ganmoliaeth a beirniadaethau cadarnhaol hefyd am ei rôl yn y ffilm Fight Club (1999), lle chwaraeodd ran Tyler Durden. Ers hynny, mae ef wedi sefydlu ei hun ferl actor o'r radd flaenaf. Ei lwyddiannau mwyaf o safbwynt masnachol oedd Ocean's Eleven (2001), Spy Game (2001), Troy (2004), y comedi anturus Mr. & Mrs. Smith (2005), a Burn After Reading (2008).
Wedi iddo gael perthynas enwog gyda'r actores Gwyneth Paltrow, a phriodas â Jennifer Aniston, mae Pitt bellach yn byw gyda'r actores Angelina Jolie. Mae eu perthynas wedi denu sylw'r cyfryngau ledled y byd. Maent wedi mabwysiadu tri o blant, Maddox, Pax a Zahara, yn ogystal â thri o'u plant biolegol, Shiloh, Knox a Vivienne. Ers ei berthynas gyda Jolie, mae Pitt wedi ymroi'n fwyfwy i faterion cymdeithasol, yn ei wlad ei hun yn ogystal â thramor.
Gwragedd [golygu]
- Jennifer Aniston (2000-2005)
- Angelina Jolie
Plant [golygu]
Ffilmiau [golygu]
- Dark Side Of The Sun (1988)
- Across the Tracks (1991)
- Thelma & Louise (1991)
- A River Runs Through It (1992)
- Interview With The Vampire (1994)
- Legends of the Fall (1994)
- Se7en (1995)
- Twelve Monkeys (1997)
- Seven Years in Tibet (1997)
- Meet Joe Black (1998)
- Fight Club (1999)
- Ocean's Eleven (2001)
- Troy (2004)
- Mr. & Mrs. Smith (2005)