Model

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae model yn berson sy'n gosod ei hun neu'n arddangos ei hun er mwyn celf, ffasiwn neu hysbysebu a chynhyrchion eraill. Nid yw na oed na rhyw yn ffactor hollbwysig - gall model fod yn ddyn neu ddynes neu blentyn - ond ceir mwy o fodelau benywaidd ifanc.

Model benywaidd yn arddangos dillad

Serch hynny, nid yw'r ffin bob amser yn gwbl glir o ran meysydd fel actio, dawnsio neu feimio. Yn gyffredinol, nid yw ymddangos mewn ffilm yn cael ei ystyried yn fodelu, waeth beth yw'r rôl ei hun. Fodd bynnag, disgwylir i fodelau arddangos emosiwn yn eu ffotograffau ac mae nifer o fodelu wedi disgrifio'u hunain fel actorion.

Ceir gwahanol fathau o fodelu gan gynnwys glamor, ffasiwn, bicini, celf-fanwl a modelau rhannau o'r corff. Mae rhai modelau yn modelu'n noeth, er mwyn celf neu adloniant.

Nid yw pob model yn brydferth: mae modelau cymeriad yn portreu pobl gyffredin neu ddoniol, ac fe'u gwelir gan amlaf mewn gwaith print ac mewn hysbysebion.

Rhai modelau o Gymru[golygu]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am model
yn Wiciadur.