Sian Adey-Jones

Oddi ar Wicipedia
Sian Adey-Jones ar glawr High Society; Medi 1985.

Sian Adey-Jones (ganwyd yn Rhagfyr 1957 ym Modfari, Sir Ddinbych) oedd Miss Cymru, 1976, ac yn ail yng nghystadleuaeth Miss Byd (Miss World) yn yr un flwyddyn.[1]

Siociwyd y Gymru Gymraeg pan gyhoeddodd Y Faner lun noeth ohoni ar glawr un o'i rifynnau. Cafwyd adroddiad yn y Daily Mirror iddi ben-glinio heddwas yn ei geilliau tua'r un adeg. Ymddangosodd yn borcyn nifer o weithiau ar dudalen 3 ym mhapur tabloid The Sun, a bu'n actio yn un o ffilmiau James Bond: A View To A Kill yn 1985.

Mae'n byw ar Ynys Ibitha ers rhai blynyddoedd bellach gyda'i gŵr Eidalaidd Rocco ei mab Dylan a'i merch Tallulah.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [1] Archifwyd 2008-02-27 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Miss Cymru
  2. [2] Erthygl: The gentlemen's club for the rich and famous that worships a 1980s Page 3 girl.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]