Bronwen Astor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Model oedd Bronwen Astor, Is-iarlles Astor (ganwyd 6 Mehefin 1930). Bu hefyd yn awen ac yn couturier i Pierre Balmain, ai disgrifiodd fel un o'r merched prydferthaf iddo erioed gyfarfod.[1]

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Janet Bronwen Alun Pugh yn Llundain, yn ferch i Syr John Alun Pugh, adnabyddir yn gyffredinol wrth ei henw canol, Bronwen.[2] Addysgwyd yn Ysgol Dr. Williams yn Nolgellau, Gwynedd.[3]

Ar 14 Hydref 1960 priododd â 3ydd Is-iarll Astor, mab Nancy Astor, y ddynes gyntaf i gymryd sedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Bronwen oedd ei drydydd gwraig. Wedi tair blyned o briodas, tröwyd ei bywyd ar ei ben i lawr yn sgil Helynt Profumo, a ddymchwelodd llywodraeth Harold Macmillan. Ym 1966, bu farw ei gŵr yn ifanc, gan ei gadael i ofalu am ddau blentyn dan 5 oed.[1]

Agorodd ei thŷ i'r digartref, ac ym 1983 hyfforddodd fel seicotherapydd.[1] Cyhoeddwyd ei bywgraffiad, Bronwen Astor: Her Life and Times, yn 2000.

Teulu[golygu]

Gŵr[golygu]

Plant[golygu]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Peter Stanford (1999). Bronwen Astor : Her Life and Times. HarperCollins. ISBN 9780002558396

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2  The Women: Bronwen Astor. Visionary Dialogues with Modern Women.
  2.  Janet Bronwen Alun Pugh. thePeerage.com.
  3.  Addysg ddelfrydol yn straeon Enid Blyton yn bell o’r gwir. Western Mail (1 Rhagfyr 2009).