John Alun Pugh

Oddi ar Wicipedia
John Alun Pugh
Ganwyd23 Ionawr 1894 Edit this on Wikidata
Brighton Edit this on Wikidata
Bu farw24 Tachwedd 1971 Edit this on Wikidata
The London Clinic Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbarnwr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata
PlantBronwen Astor, Gwyneth Pugh, Ann Pugh Edit this on Wikidata

Roedd Ei Anrhydedd Syr John Alun Pugh, (23 Ionawr 189424 Tachwedd 1971) yn farnwr yn y llysoedd sirol[1] ac yn un o gefnogwyr cynnar Plaid Cymru

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Syr Alun yn Brighton yn unig blentyn i Dr John Williamson Pugh, meddyg teulu a Margaret (née Evans ) ei wraig. Roedd ei ddau riant yn hanu o Llansantffraid, Ceredigion

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Brighton a Choleg y Frenhines, Rhydychen lle fu'n astudio hanes.

Ym 1915 Priododd Kathleen Mary, (bu hi farw 1970), merch T. Edward Goodyear o Bromley, Swydd Caint; bu iddynt tair merch ac un mab. Ei ferch ieuengaf oedd Bronwen, Is-iarlles Astor

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu Syr Alun yn gwasanaethu fel is-gapten yn y Gwarchodlu Cymreig[2] o 1915 i 1918 a chafodd ei anafu yn ei goes wrth frwydro yn Ffrainc ym 1916[3].

Fe'i galwyd i'r Bar yn y Deml Ganol ym 1918 ; a bu'n ymarfer fel bargyfreithiwr ar gylchdaith De Cymru. Fe'i codwyd yn farnwr ym 1944 a fu'n llywyddu dros achosion llysoedd y goron Swydd Norfolk rhwng 1944 a 1946; Gorllewin Llundain 1947 i 1948; Bow 1948-1950 a Bloomsbury o 1950 hyd ei ymddeoliad ym 1966.

Ym 1924 gwasanaethodd fell llywydd yr Hardwicke Society

Bu'n is olygydd Butterworth’s Workmen’s Compensation Cases, o 1927 i 1939 ac yn olygydd o 1939 i 1942, sef cyfnodolyn a oedd yn cynnwys adroddiadau o bob achos a glywyd yn Nhŷ'r Arglwyddi a Llys Apêl, Lloegr yn ymwneud â deddfau iawndal i weithwyr

Roedd yn aelod o Bwyllgor Rheolau Llysoedd y Goron o 1937 i 1944 ac eto o 1947 i 1966 gan wasanaethu fel cadeirydd y pwyllgor rhwng 1947 a 1966.

Rhwng 1958 a 1959 bu'n llywydd Comisiwn Ymchwil i heddlu Brenhinol y Bahamas.

Fe'i urddwyd yn farchog ym 1959.

Y Cenedlaetholwr[golygu | golygu cod]

Er bod ei rieni yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf magwyd Alun yn uniaith Saesneg. Wedi ei gyfnod yn gyd wasanaethu efo Cymry eraill yn Ffrainc, teimlai nad oedd ei wybodaeth o'i gwreiddiau yn ddigonol. Ar anogaeth ei wraig aeth ati i ddysgu'r iaith Gymraeg ac i astudio hanes Cymru. Bu ganddo ddiddordeb mawr yn Neddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru, mewn darlith a draddodwyd yn ystod Ysgol Haf Plaid Genedlaethol Cymru 1936, Pugh oedd y cyntaf i gyfeirio atynt fel y Deddfau Uno.[4]

Ymunodd â Phlaid Cymru yn fuan wedi ei sefydlu a fu 'n gyfrannwr ariannol hael i'r achos. Pugh fu'n gyfrifol am ddrafftio polisïau cyfansoddiadol cyntaf y blaid.[5]

Roedd yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r Ddeiseb Genedlaethol ar Statws Cyfreithiol yr Iaith Gymraeg 1938-1942[6].

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn The London Clinic, ysbyty preifat yn Harley Street, Llundain yn 77 mlwydd oed[7].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Pugh, His Honour Sir (John) Alun, (23 Jan. 1894–24 Nov. 1971), Judge of County Courts, retired." WHO'S WHO & WHO WAS WHO. Adalwyd 2 Ionawr 2018
  2. Archif Genedlaethol Lloegr Lieutenant John Alun PUGH. Welsh Guards
  3. "LLANON - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1916-09-22. Cyrchwyd 2018-01-03.
  4. J. Alun Pugh, "Y Ddeddf Uno", yn Y Ddeddf Uno, 1536: Y Cefndir a'r Canlyniadau, gol. W. Ambrose Bebb (Caernarfon: Plaid Genedlaethol Cymru, 1937), t.35
  5. D. W. P. writes:. SIR ALUN PUGH Devotion to Wales. The Times, 26 Tachwedd 1971: 19. The Times Digital Archive. Web. Adalwyd 2 Ionawr 2018
  6. THE NATIONAL PETITION ON THE LEGAL STATUS OF THE WELSH LANGUAGE, 1938-1942 Cylchgrawn hanes Cymru Cyfrol 18 tudalen 94
  7. Sir Alun Pugh, Evelyn, Lady Auckland. Daily Telegraph, 25 Nov. 1971, p. 14. The Telegraph Historical Archive, adalwyd 2 Ionawr 2018