Y Gwarchodlu Cymreig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Gwarchodlu Cymreig
Welsh Guards.png
Bathodyn y Gwarchodlu Cymreig
Gweithredol 1915–presenol
Gwlad Baner Y Deyrnas Unedig Prydain Fawr
Cangen Byddin Y Deyrnas Unedig
Math Gwarchodlu'r Troedfilwyr
Rôl Bataliwn 1af - Troedfilwyr Ysgafn
Maint Un Bataliwn
Rhan o Adran y Gwarchodlu
Pencadlys Elizabeth Barracks Pirbright
Arwyddair "Cymru am Byth"
Gorymdaith Sydyn – Rising of the Lark
Araf – Gwŷr Harlech
Penblwyddi 1 Mawrth (Dydd Gŵyl Dewi)
Cadlywyddion
Pencadfridog Elizabeth II
Arwyddlun
Fflach Adnabod Tactegol GuardsTRF.svg
Plufyn Gwyn/Gwyrdd/Gwyn
Ochr chwith y cap croen arth
Talfyriad WG


Un o gatrodau Gwarchodlu'r Troedfilwyr yn y Fyddin Brydeinig yw'r Gwarchodlu Cymreig (Saesneg: Welsh Guards). Fe'i sefydlwyd ar 26 Chwefror 1915 diolch i Warant Frenhinol Brenin Siôr V.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffurfio'r Catrawd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Cadlywydd Kitchener orchymyn gan y Brenin i greu Y Gwarchodlu Cymnreig ar 6 Chwefror 1915 [1][2] gyda'r gatrawd yn dod i fodolaeth swyddogol ar 26 Chwefror 1915 diolch i Warant Frenhinol Brenin Siôr V.

Ar 1 Mawrth 1915 roedd Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig yn gwarchod Palas Buckingham am y tro cyntaf.[3] ac ar 17 Awst 1915 hwyliodd y Bataliwn 1af i Ffrainc er mwyn ymuno ag Adran y Gwarchodluoedd ac ymuno yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth eu brwydr cyntaf yn Loos ar 27 September 1915 gyda Croes Fictoria cyntaf y gatrawd yn cael ei hennill ym mis Gorffennaf 1917 gan Rhingyll Robert Bye.[3]

Crewyd y catrawd er mwyn sicrhau presenoldeb cenedlaethol o Gymru ymysg Gwarchodluoedd y Troedfilwyr. Y Gwarchodlu Cymreig oedd yr olaf o'r Gwarchodluoedd i gael ei sefydlu yn dilyn y Gwarchodlu Gwyddelig gafodd eu sefydlu yn 1900.

1918-1939[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi diwedd y Rhyfel Mawr ym 1918, dychwelodd y Bataliwn i Ynysoedd Prydain, lle treuliwyd y rhan helaeth o'r cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd, gan ymarfer a pherfformio gwasanaethau seremonïol fel Cyflwyno'r Faner a Newid y Gwarchodlu.

Bu'r Bataliwn hefyd ar leoliad yn Cologne, Yr Almaen ac yn yr Aifft, lle roeddent yn rhan o 29fed Brîgad y Troedfilwyr (Brigâd Cairo) cyn symud i Gibraltar lle roeddent yn trigo pan gychwynodd yr Ail Ryfel Byd ym mis Medi 1939. Crewyd 2il Fataliwn y Gwarchodlu Cymreig ym 1939.[3]

Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Milwyr y Gwarchodlu Cymreig yn ymladd ger Cagny yn ystod Ymgyrch Goodwood, 19 Gorffennaf 1944.

Ymestynwyd y catrawd i dri Bataliwn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Brywdrodd y Bataliwn 1af ym mhob un o ymgyrchoedd Maes y Gad Gogledd-Orllewin Ewrop. Brwydrodd yr 2il Fataliwn yn Boulogne ym 1940 tra bo'r Bataliwn 1af yng Ngwlad Belg fel rhan o'r Fyddin Ymgyrchol Brydeinig. Enillodd y Gwarchodlu eu hail Croes Fictoria ym Mrwydr Arras ym Mai 1940 yn dilyn gweithred gwrol Is-Gapten Christopher Furness a fu farw yn ystod y frwydr. Roedd y Bataliwn 1af yn rhan o Wacâd Dunkerque welodd dros 340,000 o filwyr Prydain a Ffrainc yn ffoi yn ôl i Ynysoedd Prydain.[3]

Brwydrodd y 3ydd Bataliwn o'r Gwarchodlu Cymreig yn Tiwnisia fel rhan o Ymgyrch Gogledd Affrica ac yn ymgyrchoedd Yr Eidal ym 1943[3].

Wedi'r Rhyfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd diddymwyd y 3ydd Bataliwn a chafodd yr 2il Fataliwn ei hatal dros-dro. Ym 1947 cafodd y Gwarchodlu Cymreig eu gyrru i Balesteina oedd, ar y pryd, o dan reolaeth Prydain Fawr. Roedd y Gwarchodlu yn rhan o Frîgad 1af y Troedfilwyr oedd yn gyfrifol am ddiogelwch cyn gadael y wlad ym 1948 pan grewyd gwladwriaeth Israel. Cafodd y Catrawd y fraint o gyflwyno eu baner ym 1949[4].

Ym 1950 cafodd y catrawd eu gyrru i Orllewin yr Almaen fel rhan o 4ydd Brîgad y Troedfilwyr, oedd yn rhan o Fyddin Prydain ar y Rhein (BAOR). Ymunodd y catrawd â Brigâd Berlin ym 1952 yng Ngorllewin Berlin yng nghanol y Rhyfel Oer rhwng gwledydd NATO a gwledydd Cytundeb Warsaw. Dychwelodd y Gwarchodlu Cymreig gartref ym 1953 cyn symud i Ardal Camlas Suez yn Yr Aifft hyd nes i Fyddin Prydain adael yr ardal ym 1956 wedi Rhyfel Suez.[5].

Ar ôl cyfnod arall yng Ngorllewin yr Almaen a cyfnod yn Aden cafodd y Gwarchodlu Cymreig eu lleoli yng Ngogledd Iwerddon ym 1972 yn ystod y cyfnod cythryblus a threisgar â elwir Yr Helyntion cyn ymuno â byddinoedd y Cenhedloedd Unedig yng Nghyprus ym 1976 yn sgîl ymosodiad Twrci ar yr ynys ym 1974[6].

In 1977 the regiment arrived in West Berlin again, and then in 1979 once more in the midst of the volatile situation in Northern Ireland, they lost Guardsman Paul Fryer to a booby trap bomb. On 9 July 1981, Daniel Barrett, aged 15 years, was sitting on the garden wall of his home in Havana Court, Ardoyne, North Belfast, when he was shot dead by a soldier of the Welsh Guards.[7]

Rhyfel y Falklands[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1982, roedd y Gwarchodlu Cymreigyn rhan o 5ed Brigâd y Troedfilwyr gafodd eu gyrru i waredu Ynysoedd y Falklands rhag byddin Ariannin yn ystod Rhyfel y Falklands. Ar 7 Mehefin roedd y Gwarchodlu ar fwrdd Sir Galahad, oedd yn disgwyl gyda'r Sir Tristram, i lanio yn Bluff Cove, ond tra bod oedi yn glanio'r milwyr, ymosododd pum awyren Dagger a phump awyren A-4 Skyhawk gyda thri taflegryn o'r awyrenau yn llwyddo i daro'r Sir Galahad. Bu farw 48 o bobl yn yr ymosodiad, 32 o'r Gwarchodlu Cymreig, 11 aelod arall o'r fyddin a phump o griw y Sir Galahad. Suddwyd y Sir Galahad yn ddiweddarach er mwyn caniatau iddi fod yn fedd milwrol[8].

1982-Presennol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwarchodluwr Cymreig yn Nhŵr Llundain.

Yn 2002 cyrhaeddodd y catrawd Bosnia fel rhan o Grym Sefydlogi (SFOR), ymgyrch NATO i sicrhau heddwch a sefydlogrwydd yn y wlad cyn symud i Basra fel rhan o Ymgyech Telic yn ne Irac yn 2005. Ym mis Ebrill 2009 cafodd y Gwarchodlu Cymreig eu gyrru i Affganistan fel rhan o Ymgyrch Herrick.

Anrhydeddau brwydr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Gwarchodlu Cymreig wedi eu hurddo â'r anrhydeddau brwydr canlynol:[9]

Rhyfle Byd Cyntaf

Loos, Somme 1916 Somme 1918, Brwydr Ginchy, Brwydr Flers Courcelette, Brwydr Morval, Ypres 1917, Brwydr Pilckem, Brwydr Poelcappelle, Brwydr Passchendaele, Cambrai 1917, Bapaume 1918, Arras 1918, Albert 1918, Drocourt-Quéant, Llinell Hindenburg, Brwydr Havrincourt, Brwydr Canal Du Nord, Brwydr Selle, Brwydr Sambre, Ffrainc a Fflandrys 1915–18

Ail Ryfel Byd

Brwydr Arras, Brwydr Boulogne 1940, St Omer-La Bassée, Bourguébus Ridge, Cagny, Mont Pincon, Brwsel 1944-45, Hechtel, Nederrijn, Y Rhein, Lingen, Gogledd-Orllewin Ewrop 1940 '44–45, Fondouk, Djebel el Rhorab, Tunis, Hammam Lif, Gogledd Affrica 1943, Monte Ornito, Dyffryn Liri, Monte Piccolo, Cipio Perugia, Arezzo, Florence, Llinell Gothig, Battaglia, Yr Eidal 1944–45

Wedi'r Ail Ryfel Byd

Ynysoedd y Falklands 1982, Affganistan 2009

Derbynyddion y Groes Fictoria[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwisg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r botymau ar diwnig ysgarlad y Gwarchodlu Cymreig yn dod mewn cyfresi o bump sy'n dynodi mai'r Gwarchodlu Cymreig oedd y pumed Gwarchodlu i gael ei ffurfio. Cenhinen sydd ar fathodyn coler y tiwnig tra bod plufyn gwyrdd, gwyn a gwyrdd yn cael ei wisgo ar ochr chwith y cap croen arth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Chant, Christopher. The Handbook of British Regiments (Llundain, Routledge, 1988).
  • Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006).
  • Ward, Charles Humble Dudley (1920) History of the Welsh Guards

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag of Wales 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Yorkshire Regiment Cap Badge 289px.JPG Eginyn erthygl sydd uchod am uned filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.