Diana, Tywysoges Cymru

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Diana, Tywysoges Cymru

Diana, Tywysoges Cymru (Diana Frances;[N 1] née Spencer;1 Gorffennaf 1961 – 31 Awst 1997) oedd gwraig gyntaf Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru. Eu meibion, y Tywysog William a'r Tywysog Harri, yw'r ail a'r trydydd mewn llinell ar gyfer yr orsedd ym Mhrydain a phymtheg Teyrnas y Gymanwlad.

Roedd Diana yn ffigwr cyhoeddus ers i'w dyweddiad i'r Tysysog Siarl gael ei gyhoeddi, ers hynnu roedd Diana bron yn ddi-baid, yn ganolbwynt ar gyfer archwiliadau'r wasg ym Mhrydain ac o gwmpas y byd, yn ystod ei phriodas ac yn dilyn ei hysgariad. Bu farw mewn damwain car ym Mharis, a bu garalu cyhoeddus hirfaith. Mae'r ymatebion cyfoes i fywyd a chymyn Diana wedi bod yn gymysg, ond mae'r diddordeb hudol gyda'r Dywysoges yn parhau. Daeth Ymchwiliad y Crwner, a oedd yn hir-ddisgwyliedig, i ben ym mis Ebrill 2008, a daeth i'r casgliad y lladdwyd Diana yn anghyfreithlon gan y gyrrwr a'r paparazzi a oedd yn ei herlid.[1]

[golygu] Bywyd cynnar

Roedd Diana yn ferch ieuengaf i Spencer, Is-iarll Althorp, sef 8fed Iarll Spencer yn ddiweddarach, a'i wraig cyntaf, Frances, Is-iarlless Althorp (yr Anrhydeddus Frances Burke Roche gynt, a Frances Shand Kydd yn ddiweddarach). Ganwyd yn Park House, Sandringham yn Norfolk ar 1 Gorffennaf 1961 am 6.45 y prynhawn. Bedyddwyd yn Egwlys St. Mary Magdalene gan y gwir barchedig Percy Herbert (rheithor yr eglwys a chyn Esgob Norwich a Blackburn); roedd ei rhieni bedydd yn cynnwys John Floyd (cadeirydd Christie's). Hi oedd trydydd plentyn y cwpl, roedd ei brodydd a'i chwiorydd oedd y Fonesig Sarah Spencer (ganwyd 1955), y Fonesig Jane Spencer (ganwyd 1957), yr Anrhydeddus John Spencer (bu farw 12 Ionawr 1960), a'r Anrhydeddus Charles Spencer (ganwyd 1964). Yn dilyn ysgariad chwerw eu rhieni ym 1969 (ynglŷn a helynt y Fonesig Althorp gyda Peter Shand Kydd), cymerodd mam Diana hi a'i brawd ifengaf i fyw mewn fflat yn Knightsbridge, Llundain, ble mynychodd Diana ysgol leol. Y Nadolig hwnnw, fe aeth y plant i gyd i ddathlu gyda'u tad, ond gwrthodof ef i'w gadael i ddychwelyd i Lundain wedyn. Fe erlynodd y Fonesig Althorp er mwyn cael gwarchodaeth o'i phlant, ond fe gynorthwywyd y llys i wobrwyo'r warchodaeth i'r tad gan dystiolaeth mam y Fonesig Althorp yn ei herbyn.

Ym 1976 priododd yr Arglwydd Spencer Raine, Iarlles Dartmouth, unig ferch y nofelydd rhamantus Barbara Cartland, ar ôl iddo achosi ysgariad yr Iarll a'r Iarlles Dartmouth. Bu Diana yn teithio ar hyd y wlad yn ystod y cyfnod hwn, gan fyw rhwng cartrefi ei rhieni, gyda'i thad yn sedd y teulu Spencer yn Swydd Northampton, a gyda'i mam a oedd wedi symud i fyw i Ynys Seil, oddi ar ardfordir gorllewinol yr Alban. Yn wahanol i'w brodyr a'i chwioryddid, nid oedd Diana yn cyd-dynnu gyda'i llysfam.

[golygu] Llinach

Offer personol